×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Rheolwr Cynllunio'r Rhwydwaith Bysiau | Bus Network Planning Manager

Job in Swansea, Swansea County, SA1, Wales, UK
Listing for: Transport for Wales
Full Time position
Listed on 2026-02-18
Job specializations:
  • Business
    Business Development
Job Description & How to Apply Below

Bydd y Rheolwr Cynllunio Rhwydwaith Bysiau yn darparu cymorth ac arweiniad wrth ddatblygu, dylunio a symud rhwydwaith bysiau Cymru trwy weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat i ddarparu rhwydweithiau bysiau gwell ledled Cymru fel rhan o'r symudiad tuag at rwydwaith bysiau masnachfraint.

Cyfrifoldebau’r swydd
  • Adolygu a datblygu amserlenni bysiau presennol o bob cwr o Gymru drwy ddefnyddio data galw a phrydlondeb, ynghyd â blaenoriaethau lleol a rhanbarthol i gefnogi cyfrifoldebau masnachfreinio bysiau Trafnidiaeth Cymru (TrC)
  • Datblygu a dylunio amrywiaeth o brosiectau rhwydwaith sy’n ymwneud â’r bont i rwydweithiau masnachfraint a rhwydweithiau masnachfraint yn y dyfodol drwy reoli prosiectau i gefnogi Awdurdodau Lleol i ddatblygu eu rhwydweithiau bysiau lleol drwy gyngor arbenigol a sgiliau cynllunio rhwydwaith.
  • Rheoli ac arwain timau prosiectau drwy gydweithio â chydweithwyr mewnol, contractwyr allanol, rhanddeiliaid a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y prosiectau’n cyflawni canlyniadau.
  • Adnabod a monitro risgiau i’r prosiect a all effeithio ar Trafnidiaeth Cymru (TrC), gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â chyllid, enw da, ansawdd, yr amgylchedd ac iechyd a diogelwch, gan gydweithio â’r gweithwyr risg proffesiynol priodol yn TrC a rheoli’r gofrestr risgiau i sicrhau bod TrC yn gallu gweithredu mesurau lliniaru effeithiol.
Am beth rydyn ni’n chwilio
  • Gradd berthnasol megis Busnes, Cynllunio, Peirianneg (neu debyg) neu brofiad cyfatebol.
  • Yn meddu ar gymhwyster rheoli prosiect neu’n gweithio tuag at hynny, ee APM, PRINCE 2 neu debyg.
  • Profiad blaenorol fel Cynllunydd Trafnidiaeth, Peiriannydd Rhwydwaith Trafnidiaeth neu rôl mewn gweithredu bysiau / cwmni trafnidiaeth / adran drafnidiaeth awdurdod lleol.
  • Dealltwriaeth o’r sector bysiau, gan gynnwys; gweithrediadau, cyllid a fframweithiau cyfreithiol.

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.

Pwy

ydyn ni

Mae Trafidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary