Rheolwr Cynorthwyol Cartref Gofal Preswyl - Brwynog
-
Maintenance/Cleaning
Dishwasher / Kitchen Assistant
Job Description & How to Apply Below
Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Rheolwr Cynorthwyol Cartref Gofal Preswyl - BrwynogMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff:
Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
- Helpu’r Rheolwr Cofrestredig gyda holl agweddau rhedeg cartref o ddydd i ddydd.
- Sicrhau bod yr holl agweddau o reoli’r cartref yn bodloni gofynion Rheoliadau a’r Safonau Cenedlaethol Isaf ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl (Cymru) 2002.
- Gweithredu fel Rheolwr y Cartref ar draws yr ystod cyfan o ddyletswyddau yn absenoldeb y rheolwr Cofrestredig.
- Helpu Rheolwr y Cartref gyda rheolaeth gyllidebol y cartref o ddydd i ddydd.
- Bod yn gyfrifol am helpu i reoli ac arolygu’r tîm staff.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).