Cydlynydd Gwaith Achos Menywod Arbenigol
Listed on 2026-01-19
-
Doctor/Physician
Healthcare Consultant, Medical Doctor, Surgeon
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd ag angen tai.
Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.
Oherwydd pandemig Covid
19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o ehangu’r gwasanaeth oddi mewn
Bydd y Cydlynydd Gwaith Achos Menywod Arbenigol yn gyfrifol am y canlynol:
Darparu gwasanaeth cymorth pendant a arweinir gan anghenion i fenywod ag anghenion cymhleth, gan gynnwys y rhai sy'n cysgu ar y stryd.
Rheoli llwyth achosion o unigolion cymhleth gan sicrhau y cynhelir asesiadau cyfannol ac y deuir o hyd i lety priodol.
Gweithredu mewn gwahanol gyfarfodydd partneriaeth fel eiriolwr dros fenywod a gweithio mewn partneriaeth i sicrhau lleoliadau cadarnhaol hirdymor.
Cefnogi'r gwasanaeth ehangach yn ôl y gofyn.
Am bwy rydym yn chwilio?Rydym yn chwilio am unigolion dynamig a chreadigol a all feithrin perthnasoedd cadarnhaol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwaith gwahanol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddai profiad o weithio gyda phobl ag ymddygiadau cymhleth a dealltwriaeth o’r problemau a wynebir gan unigolion digartref yn fanteisiol.
Gall yr amgylchedd gwaith fod yn heriol felly bydd y gallu i aros yn ddigynnwrf dan bwysau yn fantais. Bydd y rôl yn gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus roi cymorth i’r tîm rheoli gyda phob agwedd ar y gwasanaeth.
Gwybodaeth ychwanegolMae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu’r Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2 neu, yn achos staff ysgol, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Gan fod hon yn rôl mor ddiddorol, byddem yn eich annog i gael sgwrs anffurfiol ymlaen llaw gyda Khaleel Alaale ar neu Kh
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: