×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel - BBC Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG​/Education

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: BBC Group and Public Services
Full Time position
Listed on 2025-12-30
Job specializations:
  • Engineering
    Research Scientist, Systems Engineer
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 22950 GBP Yearly GBP 22950.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG / Education

Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG / Education Cardiff

  • WHO WE ARE
  • WHAT WE DO
  • WORKING AT THE BBC
  • HOW WE HIRE
  • EARLY CAREERS
  • EXTEND
  • SEARCH JOBS

Language Log in to Profile BBC Employee Login CREATE JOB ALERT Prentisiaeth Cynprodu... Job

Requisition  Job Closing Date: 11 January 2026 Cardiff, G , CF10 1FT

Math o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis

Adran: Meithrin Potensial

Lleoliad: Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog

Cyflog: £22,950

AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?

Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.

PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?

Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain.

Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw.

Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma .
Sylwch fod y weminar ar gyfer y cynllun hwn yn cael ei chynchal nos Fercher 10 Rhagfyr am 6pm.Os nad ydych chi'n gallu bod yn bresennol, neu os ydych chi wedi gweld hyn ar ôl y dyddiad hwnnw, cadwch lygad ar ein rhestr o weminarau ar Youtube yma lle bydd y fideo'n cael ei uwchlwytho.

PAM YMUNO Â’R TÎM?

Adran gynhyrchu a chomisiynu yw BBC Cymru Addysg, sy'n gweithio ar un o wasanaethau mwyaf y BBC i bobl ifanc, sef BBC Bitesize. Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar sy'n gwneud cynnwys ffres, dwyieithog i bobl ifanc 3-16 oed sy'n cael ei weld gan filiynau. Mae ein cynnwys yn ennyn chwilfrydedd ac yn annog dysgwyr ledled Cymru i feddwl! O'r syniad cyntaf un i'r lansiad mawr, byddwch yn ganolog i bopeth, yn gweithio ochr yn ochr â thimau golygyddol a thechnegol gwych i helpu i ddod â chynnwys newydd sbon o ansawdd uchel yn fyw.

Mae cenhadaeth BBC Addysg yn syml - gweddnewid bywydau drwy ddysgu. Yn ystod cyfnodau clo'r ysgolion, roedd yr adran wedi darparu’r gwasanaeth addysgol mwyaf yn hanes y BBC drwy BBC Bitesize a daeth cynulleidfaoedd newydd enfawr i ddarganfod ein cynnwys.

Rydym ni wedi cynnal y momentwm hwnnw, gan greu mwy fyth o gynnwys cyffrous i ddysgwyr ledled Cymru.

Ein nod yw:

  • Rhoi profiad dysgu personol i bob plentyn yn y DU drwy BBC Bitesize, sy'n denu dros 2 filiwn o ddefnyddwyr yr wythnos
  • Cefnogi ac ysbrydoli dysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy greu cynnwys o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm
  • Mynd i'r afael â bylchau addysgol a chymdeithasol ledled y DU drwy ymgysylltu ag ymgyrchoedd addysgol
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD

Fel prentis Cynhyrchu, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Gallech chi:

  • Dysgu sut rydym ni'n ffilmio ac yn darparu cynnwys ffilm i bobl ifanc
  • Dysgu am y broses o gomisiynu a chynhyrchu animeiddiadau
  • Cael cyfleoedd i gynhyrchu cynnwys cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo
  • Ymweld ag ysgolion i ddeall anghenion ein dysgwyr
  • Datblygu dealltwriaeth o'r haenau o brosesau cynhyrchu sydd eu hangen i wneud cynnwys addysgol diddorol a digidol ar gyfer un o frandiau mwyaf y BBC.

Byddwch chi'n dysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (wythnos neu ddwy ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol. Bydd y blociau dysgu’n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb.

I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith prentisiaeth y byddwch yn ei astudio, ewch i’r ddolen hon.

EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD

Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i…

Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary