×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Darlithydd mewn Rheoli Strategaeth Marchnata;

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position
Listed on 2025-12-20
Job specializations:
  • Retail
    General Retail, Business Development
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 46049 - 51753 GBP Yearly GBP 46049.00 51753.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Darlithydd mewn Rheoli Strategaeth a Marchnata (2526174)

Darlithydd mewn Rheoli Strategaeth a Marchnata (2526174)

6 days ago Be among the first 25 applicants

Y Cyfle

Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig ym myd addysg Busnes a Rheoli. Mae cyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid;
Busnes, Rheoli a'r Gyfraith;
Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd drwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.

Mae'r Adran Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Reoli Caerdydd yn ceisio penodi academydd llawn cymhelliant a brwdfrydig ar lefel y Darlithydd. Elfen allweddol o rôl yr ymgeisydd llwyddiannus fydd gweithio gyda'r Coleg Rhyngwladol Technoleg Busnes (ICBT) yn Sri Lanka ar ei raglen Diploma Uwch. Bydd hyn yn gofyn am adolygu ceisiadau, darparu sicrwydd ansawdd a gwella, gan gynnwys hyfforddiant. Mae parodrwydd i ymgysylltu â lles myfyrwyr a rheoli rhaglenni yn hanfodol.

Wrth ddatblygu'r Diploma Uwch gydag ICBT byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn YRC sy'n ymwneud ag Addysg Drawswladol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r Tiwtoriaid Cyswllt ac yn benodol y Tiwtor Cyswllt ar gyfer ICBT, Cadeiryddion Grwpiau Maes, Cyfarwyddwyr Rhaglenni ac academyddion eraill ar draws gwahanol ddisgyblaethau pwnc. Mae gan y Diploma Uwch garfannau lluosog o fyfyrwyr a fydd yn astudio yn un o gampysau niferus ICBT yn Sri Lanka.

Prif

Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
  • Monitro ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio Diploma Uwch gydag ICBT.
  • Goruchwylio cymeradwyo modiwlau newydd cyn eu cyflwyno i'r pwyllgor priodol.
  • Cydlynu marcio a chymedroli asesiadau mewn cydweithrediad ag Arweinwyr Modiwlau a Chyfarwyddwyr Rhaglenni
  • Sicrhau bod yr holl asesiadau wedi bod yn destun craffu mewnol a bod y ffurflenni priodol yn cael eu llenwi i safon foddhaol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Sicrhau bod adborth i fyfyrwyr o safon uchel a chyson ac yn cael ei roi mewn modd amserol a phriodol.
  • Sicrhau bod papurau arholiad a briffiau aseiniadau o safonau priodol i'w cyflwyno i'r arholwr allanol perthnasol.
  • Cynnal cymedroli asesiadau wedi'u marcio yn fewnol i sicrhau bod safonau priodol yn cael eu cynhal yn cyn cyflwyno sampl i arholwyr allanol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
  • Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
  • Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
  • Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
  • Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
  • Y gallu i nodi meysydd i'w gwella ac i defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.
  • Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amrywiaeth o ffyrdd — cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
  • Profiad o addysgu Addysg Uwch neu gyfwerth.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill.
  • Gradd anrhydedd dda.
  • Cymhwyster doethurol.
  • Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).
Cysylltwch â ni

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn cysylltwch â'r Athro Niki Bolton, Pennaeth Marchnata a Strategaeth yr Adran drwy e-bostio  neu am ragor o wybodaeth am weithio gyda ni yn ein Prifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.

Dyddiad Cau

14 Jan 2026

Ysgol/Uned

Academaidd

Cyflog

£46,049 to £51,753 y flwyddyn

Parhaol

Parhaol

Seniority level

Entry level

Employment type

Full-time

Job function

Other

Industries

Higher Education

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary