×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Adolygiad Gwella Ansawdd Cyfle Adolygwyr

Job in Gloucester, Gloucestershire, GL1, England, UK
Listing for: The Quality Assurance Agency for Higher Education
Full Time position
Listed on 2025-12-30
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Job Description & How to Apply Below
Position: Adolygiad Gwella Ansawdd Cyfle i Adolygwyr

Adolygiad Gwella Ansawdd Cyfle i Adolygwyr

Join to apply for the Adolygiad Gwella Ansawdd Cyfle i Adolygwyr role at The Quality Assurance Agency for Higher Education.

Posted 1 week ago. Be among the first 25 applicants.

Ydych chi'n angerddol am addysg uwch yng ngholegau a phrifysgolion Cymru?

Oes gennych chi brofiad cyfredol neu ddiweddar o oruchwylio, rheoli a/neu sicrhau safonau academaidd mewn rol academaidd neu broffesiynol uwch, yn ogystal a phrofiad o asesu myfyrwyr a chynnal gweithgaredd sicrhau ansawdd mewn lleoliad addysg uwch?

Os felly, efallai mai chi yw'r person rydyn ni'n chwilio amdano!

Trwy alwad agored rydym nawr yn ceisio ehangu ein carfan o adolygwyr QAA, i gymryd rhan mewn Adolygiad Gwella Ansawdd (QER). QER yw'r dull adolygu allanol dan arweiniad cyfoedion sy'n canolbwyntio ar welliant, ac yn cynorthwyo a sicrhau a gwella ansawdd y ddarpariaeth ar draws sector addysg uwch Cymru. Mae'n fecanwaith cyflawni allweddol o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru (QAF).

Er ein bod yn croesawu ceisiadau o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan golegau a phrifysgolion yng Nghymru.

Mae QAA yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yna siaradwr Cymraeg yn cael ei bennu i bob tim Adolygu Gwella Ansawdd lle bo'n berthnasol. Felly rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg i'n helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwn.

Mae adolygwyr effeithiol yn hanfodol i gynnal system sicrhau ansawdd gan gymheiriaid, ac mae hygrededd canfyddiadau a chanlyniadau adolygiadau yn dibynnu ar dimau adolygu sydd a gwybodaeth a phrofiad cyfoes. Mae'r system adolygu gan gymheiriaid hefyd yn hanfodol wrth adeiladu capasiti a gallu'r sector i wella ansawdd. Mae sefydliadau hefyd yn elwa o fod a staff wedi'u hyfforddi fel adolygwyr a thrwy'r profiad a'r mewnwelediadau maen nhw'n eu cael trwy gyfranogi mewn tim adolygu y gallant eu dwyn yn ol i'w sefydliad.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno a sefydliad sydd a rol hanfodol yn sector addysg drydyddol y DU. Er ein bod yn chwilio am unigolion profiadol yn benodol ar gyfer QER, fel aelod o'n carfan o adolygwyr, gallwch gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau adolygu QAA eraill yn y DU a thramor.

Yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd

Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd. Rydym yn cynnig cymorth i brifysgolion a cholegau, ac yn gweithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio, i dystiolaethu a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.

Rydym yn gweithio tuag at well dealltwriaeth cyhoeddus - yn y wlad hon ac yn rhyngwladol - o sut mae ansawdd rhagorol yn cael ei ddangos mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae sefydliadau ymreolaethol yn sicrhau ei ddarpariaeth ac yn mynd i'r afael a gwendidau. Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal a diogelu a hyrwyddo enw da addysg uwch.

Ynglyn

a'r rol

Mae'r ymrwymiad amser yn dibynnu ar y gweithgareddau rydych chi'n dewis eu derbyn ac mae'n debygol o gynnwys gweithgaredd wrth ddesg dros gyfres o wythnosau, cyfarfodydd tim rhithwir, o leiaf un ymweliad a'r sefydliad, llunio dyfarniad ac ysgrifennu adroddiad. Mae timau adolygu ar gyfer dull Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) Cymru yn cael eu ffurfio i adlewyrchu ac ymateb i amgylchiadau cyd-destunol ac uchelgeisiau strategol sefydliadau unigol.

Mae rhagor o fanylion am y prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau, yn ogystal a'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen, i'w gweld ym mhroffil yr Adolygiad.

Cadarnheir y ffioedd ar gyfer pob gweithgaredd sicrhau ansawdd ar yr adeg y cewch eich gwahodd i gymryd rhan.

Bydd angen cwblhau hyfforddiant gorfodol cyffredinol (Iechyd a Diogelwch; GDPR; Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant; a Seiberddiogelwch), ac yn benodol ar gyfer y dull cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd sicrhau ansawdd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch trwy e-bostio  os gwelwch yn dda.

Sut i wneud cais

Byddem yn gwerthfawrogi ceisiadau cynnar, er mai hanner-nos dydd Llun, 12 fed Ionawr 2026 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

I wneud cais, crewch broffil ar ein porth recriwtio a chyflwynwch eich CV yn ogystal a chwblhau'r holl gwestiynau ar gyfer y cais. Dim ond ceisiadau wedi'u cwblhau fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rol.

Mae QAA yn cydnabod manteision cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant. Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, waeth beth fo'u hunaniaeth neu gefndir, a'u bod yn gallu rhoi o'u gorau. Rydym yn gosod gwerth ar y gwahaniaethau y mae amrywioldeb o ran cefndir, profiadau, safbwyntiau a sgiliau yn eu cynnig, ac yn annog ymgeiswyr…

Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary