×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Swyddog Datblygu Gogledd Ceredigion | Development Officer North Ceredigion

Job in Aberystwyth, Ceredigion, SY23, Wales, UK
Listing for: Mentera
Full Time position
Listed on 2026-08-28
Job specializations:
  • Business
    Business Development
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 28000 - 36000 GBP Yearly GBP 28000.00 36000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru.

Ers 1989 rydym wedi helpu busnesau i wneud i bethau ddigwydd. O fusnesau newydd ar lawr gwlad i sefydliadau byd-eang, rydym yn cefnogi cwmnïau i gyrraedd eu llawn botensial a gweithredu ar safon fyd-eang.

Drwy becynnau cymorth wedi'u teilwra, mynediad at gyfleoedd, ac arbenigedd, profiad a chysylltiadau oddeutu 170 o aelodau staff ledled Cymru, rydym yn rhoi i fusnesau'r hyn sydd ei angen arnynt i dyfu, addasu a llwyddo.

Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm deinamig a chynhwysol sy'n helpu busnesau i gyrraedd eu llawn botensial? Dewch i ymuno â ni heddiw!

Mentera is Wales' leading independent business development company.

Since 1989, we've helped businesses make things happen. From grassroots start-ups to global organisations, we support companies to reach their full potential and operate at a world-standard level.

Through tailored support packages, access to opportunities, and the expertise, experience and connections of around 170 staff across Wales, we give businesses what they need to grow, adapt and succeed.

Do you want to be part of a dynamic and inclusive team helping businesses reach their full potential? Come and join us today!

[YOU MAY CHANGE THE LANGUAGE OF THE APPLICATION FORM BY CLICKING ON SETTINGS]

Manylion y swydd: | Job details:

[Scroll down for English language advert]


* SWYDDOG DATBLYGU GOGLEDD CEREDIGION*

Ydych chi'n angerddol am gefnogi busnesau fferm i ffynnu ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau gwledig Ceredigion?

Eich rôl

Fel Swyddog Datblygu yn Gogledd Ceredigion, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a datblygu rhaglen Farming Connect ar draws y sir. Byddwch yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, busnesau amaethyddol a rhanddeiliaid y diwydiant i hyrwyddo gwasanaethau, hwyluso gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, a chreu cyfleoedd sy'n helpu busnesau fferm i ddatblygu a ffynnu. Bydd y rôl yn cynnwys adeiladu perthnasoedd cadarn, trefnu digwyddiadau a gweithgareddau datblygu, a sicrhau bod Ffermwyr yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer dyfodol eu busnes.

Eich

tîm a'ch cyfoedion

Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa drwy ymuno â tîm bywiog y De Orllewin Cymru a chyfrannu at ddarparu rhaglen Cyswllt Ffermio yn llwyddiannus ledled Cymru.

Eich effaith

Fel Swyddog Datblygu, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau fferm a chymunedau gwledig ledled De Ceredigion. Trwy adeiladu perthnasoedd cryf, hwyluso rhwydweithiau gwerthfawr a chysylltu pobl â gwybodaeth, cyfleoedd a chefnogaeth, byddwch yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnesau, mabwysiadu arferion newydd a chynllunio'n hyderus ar gyfer y dyfodol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at sector amaeth mwy cynhyrchiol, cynaliadwy a gwydn yng Nghymru.

Buddion

a chefnogaeth
  • Cyflog cystadleuol a chyfraniad pensiwn hael gan y cyflogwr
  • Cyfraniad o 50% tuag at unrhyw weithgareddau ffitrwydd megis aelodaeth campfa misol, dosbarthiadau ffitrwydd, neu glybiau chwaraeon
  • 25 diwrnod o wyliau (ac 8 gŵyl banc), yn cynyddu i 27 diwrnod (+8) wrth i'ch hyd gwasanaeath gynyddu
  • Tridiau ychwanegol o wyliau dros y Nadolig
  • Y gallu i gario hyd at wyth diwrnod o'ch lwfans absenoldeb drosodd i'r flwyddyn ganlynol
  • Parcio am ddim ymhob swyddfa
  • Polisiau hyblygrwydd ('TOIL') hael gyda'r gallu i gael amser nôl fel gwyliau os yn gweithio oriau hirach
  • Polisiau teuluol hael megis mamolaeth a mabwysiadu
  • Digwyddiadau cymdeithasol corfforaethol rheolaidd yn cynnwys ein 'Cyrdde Mawr' yn yr Hâf ac adeg y Dolig
  • Hyfforddiant a datblygiad yn y swydd
  • Cyrsiau dysgu/gloywi Cymraeg am ddim, beth bynnag yw lefel eich gallu ar y funud
  • Cyfarpar technegol ac unrhyw gyfarpar arbenigol sydd angen ar gyfer eich swydd
Ffeithiau hanfodol am y swydd
  • Rhaglen:
    Cyswllt Ffermio - Tîm Datblygu
  • Ar adeg yr hysbyseb hon mae'r rhaglen uchod wedi ei ariannu'n allanol tan: 31/03/2029 ac mae posibilirwydd am estyniad tan 31/03/2031.
  • Math o gontract:
    Pen-agored
  • Patrwm gwaith:
    Hysbysebir y rôl fel un llawn amser (7.5 awr y dydd, Llun-Gwener)
  • Bydd angen gwiriad DBS llawn ar gyfer y swydd hon
Ffeithiau hanfodol am y broses recriwtio (yn amodol ar newid)

Dyddiad cyfweliad/asesiad:
Debygol o…

Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary