×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Teacher – Craig Yr Wylfa Primary School

Job in Aberystwyth, Ceredigion, SY23, Wales, UK
Listing for: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Full Time position
Listed on 2026-03-01
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 40000 - 60000 GBP Yearly GBP 40000.00 60000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Craig yr Wylfa yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, ymroddgar, gofalgar ac ysbrydoledig i swydd athro/athrawes Dysgu Sylfaen. Mae Ysgol Craig yr Wylfa yn ysgol hapus a weithgar wedi ei lleoli ym mhentref Borth, yng ngogledd Sir Ceredigion.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth a phrofiad addas o addysgu disgyblion oed sylfaen. Rydym yn chwilio am unigolynsy’n dangos ymrwymiad cryf i ddarparu addysg o’r safon uchaf, gan roi anghenion, lles a datblygiad pob plentyn wrth galon y gwaith. Fel ymarferydd proffesiynol, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwmi Gymru, a’r gallu i arwain ar feysydd penodol o’r cwricwlwm.

Bydd disgwyl gynllunio a darparu profiadau dysgu cyfoethog, perthnasol a chynhwysol sy’n hyrwyddo cynnydd parhaus ac yn cefnogi datblygiad y pedwar diben.

Byddai’r gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at gweithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.

Yn Ysgol Craig yr Wylfa cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar a charedig, cymuned gefnogol a thîm o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth glir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel. Mae’r llywodraethwyr a’r Ysgol yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr i’r staff, ac yn awyddus i barhau i ddatblygu arweinwyr y dyfodol. Os ydych chi’n angerddol dros addysg a lles myfyrwyr, yn barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ac eisiau gweithio mewn ysgol sy’n gwerthfawrogi cydweithredu a chynnydd personol, byddwch yn teimlo’n gartrefol gyda ni.

Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Athro/Athrawes barhaol yn Ysgol Gymunedol Craig yr Wylfa, lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.

Noder:
Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.

Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad.

Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary