×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Headteacher – Llanilar Primary School

Job in Aberystwyth, Ceredigion, SY23, Wales, UK
Listing for: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Full Time position
Listed on 2026-02-15
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Healthcare Consultant, Medical Doctor
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 40000 - 60000 GBP Yearly GBP 40000.00 60000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Ydych chi’n arweinydd ysbrydoledig sy’n chwilio am ysgol hapus, cartrefol a llwyddiannus yng nghalon Ceredigion?

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yn chwilio am Bennaeth newydd i arwain ein ysgol Gymraeg ffyniannus. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n barod i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle a pharhau i feithrin awyrgylch lle mae disgyblion yn ffynnu mewn Cymuned Cyfeillgar, Teuluol a Hapus.

Yn ôl adroddiad Estyn diweddaraf (Mehefin 2025), mae Ysgol Llanilar yn ysgol lle mae “arweinyddiaeth ysbrydoledig… ynghyd â staff cydwybodol, yn meithrin lles, gofal a chymorth disgyblion yn hynod effeithiol”.

Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar, rydym yn ymfalchïo mewn disgyblion sy’n arddangos ymddygiad da ac annibyniaeth yn eu dysgu. Mae llais y plentyn yn ganolog i’n hethos, gyda grwpiau ‘Lleisiau Ilar’ yn chwarae rhan greiddiol wrth ddylanwadu ar bopeth o welliannau cymunedol i weithgareddau lles, sy’n cael eu cyfoethogi ymhellach gan ddefnydd gwerthfawr o’n hardaloedd awyr agored. Cefnogir yr ysgol gan Gorff Llywodraethol cydwybodol sy’n adnabod ein cryfderau yn drylwyr ac yn barod i weithio mewn partneriaeth â’r Pennaeth newydd i gynnal llwyddiant parhaus.

Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â’r weledigaeth i gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu, gan sicrhau bod lles a gofal disgyblion yn parhau i gael eu meithrin yn hynod effeithiol. Byddwch yn sicrhau bod profiadau dysgu yn parhau i ennyn diddordeb, tra’n ymateb i argymhelliad diweddar Estyn. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cynnal y berthynas gadarnhaol gyda rhieni a’r gymuned, ac yn sicrhau parhad y gefnogaeth fwriadol sy’n galluogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i wneud cynnydd cryf.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gael

  • gwybodaeth a phrofiad perthnasol o gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol
  • dealltwriaeth o fethodolegau addysgeg effeithiol
  • gwybodaeth gadarn o strategaethau asesu disgyblion effeithiol
  • dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol a datblygiadau i ddod mewn addysg Gymraeg
  • y gallu i ddatblygu a rheoli tîm sy’n perfformio’n dda gan sicrhau datblygiad proffesiynol staff trwy brosesau rheoli perfformiad effeithiol
  • gweledigaeth glir o ddatblygu strategaeth gan gynnwys gweithredu a gwerthuso
  • gwybodaeth ymarferol o reoli cyllidebau’n effeithiol
  • profiad o gynllunio’r cwricwlwm a dyrannu adnoddau
  • y gallu i ddatblygu perthynas gref a chefnogol gyda staff, disgyblion, rhieni, Llywodraethwyr, y Cyngor Sir, y gymuned leol, a chyrff eraill.

Mae’r hysbyseb hon ar gyfer Pennaeth lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.

  • Ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad yr ysgol a chymuned ehangach Llanilar
  • Gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr ysgol sy’n ysbrydoli staff, rhieni a disgyblion fel ei gilydd
  • Arweiniad rhagorol sy’n tynnu ar ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill
  • Y gallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb
  • Y gallu i annog disgyblion i gofleidio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi’r Gymraeg adref
  • Y gallu i sicrhau bod yr ysgol yn helpu pob disgybl i ddatblygu dysgu annibynnol ac i fod yn barod ar gyfer y byd y tu allan i’r ysgol
  • Y gallu i barhau i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a’r gymuned leol
  • Yr awydd i fod yn agored i syniadau ac arbenigedd newydd o fewn a thu allan i’r ysgol
  • Profiad a’r gallu i reoli newid yn effeithiol

Ar hyn o bryd mae gan y Pennaeth ymrwymiad addysgu dau ddiwrnod yr wythnos.

Mae croeso i ymgeiswyr sy’n dymuno ymweld â’r ysgol cyn gwneud cais, gellir gwneud hynny drwy gysylltu â Lowri Steffan ar lowristeffani drefnu ymweliad.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Alwyn Ward Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion ar neu

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd 1/3/26 a chynhelir cyfweliadau ar ddydd 10/3/26.

Noder:
Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl fel rhan o’r ymrwymiadhwn, mae roliau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad.

Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary