Swyddog Marchnata Chyfryngau Cymdeithasol
Listed on 2026-10-01
-
Manufacturing / Production
Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth GyffredinolRy’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin gyda ffocws arbennig ar greu cynnwys a datblygu platfformau cyfryngau cymdeithasol y Mudiad.
Bydd y person mewn golwg yn cefnogi'r gwaith o gynllunio, creu a chyflwyno cynnwys deniadol ar draws ein platfformau digidol. Mae'r rôl hon yn ddelfrydol i rywun sydd am ddatblygu gyrfa ym maes marchnata ac ennill profiad ymarferol o reoli cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, marchnata digidol ac ymgysylltu â cynulleidfaoedd.
Gweler y swydd ddisgrifiad am ragor o wybodaeth am y swydd.
Lleoliad:
Aberystwyth, Ceredigion
Cyflog: MM15–MM20 £ 25,175 - £28,531
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Gwybodaeth YchwanegolMae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
DyddiadauPwysig
Dyddiad Cau: 12/10/2026
Dyddiad Cyfweliad: 15/10/2026
Dogfennau pwysig- Swydd ddisgrifiad docx
- Ffurflen gais docx
- Ffurflen monitro docx
- Buddion staff pdf
- Polisi Diogelu Plant pdf
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).