Swyddog Datblygu De Ceredigion|Development Officer South Ceredigion; Dros dro
Listed on 2026-09-12
-
Retail
Financial Reporting
Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru.
Ers 1989 rydym wedi helpu busnesau i wneud i bethau ddigwydd. O fusnesau newydd ar lawr gwlad i sefydliadau byd-eang, rydym yn cefnogi cwmnïau i gyrraedd eu llawn botensial a gweithredu ar safon fyd-eang.
Drwy becynnau cymorth wedi'u teilwra, mynediad at gyfleoedd, ac arbenigedd, profiad a chysylltiadau oddeutu 170 o aelodau staff ledled Cymru, rydym yn rhoi i fusnesau'r hyn sydd ei angen arnynt i dyfu, addasu a llwyddo.
Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm deinamig a chynhwysol sy'n helpu busnesau i gyrraedd eu llawn botensial? Do you want to be part of a dynamic and inclusive team helping businesses reach their full potential?Mentera is Wales' leading independent business development company.
Since 1989, we've helped businesses make things happen. From grassroots start-ups to global organisations, we support companies to reach their full potential and operate at a world-standard level.
Through tailored support packages, access to opportunities, and the expertise, experience and connections of around 170 staff across Wales, we give businesses what they need to grow, adapt and succeed.
[GALLWCH NEWID IAITH Y FFURFLEN GAIS DRWY GLICIO AR Y GOSODIADAU]
Manylion y swydd: | Job details:
[Scroll down for English language advert]
* SWYDDOG DATBLYGU DE CEREDIGION* Eich rôl
Fel Swyddog Datblygu yn De Ceredigion, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a datblygu rhaglen Farming Connect ar draws y sir. Byddwch yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, busnesau amaethyddol a rhanddeiliaid y diwydiant i hyrwyddo gwasanaethau, hwyluso gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, a chreu cyfleoedd sy'n helpu busnesau fferm i ddatblygu a ffynnu. Bydd y rôl yn cynnwys adeiladu perthnasoedd cadarn, trefnu digwyddiadau a gweithgareddau datblygu, a sicrhau bod Ffermwyr yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer dyfodol eu busnes.
Eichtîm a'ch cyfoedion
Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa drwy ymuno â tîm bywiog y De Orllewin Cymru a chyfrannu at ddarparu rhaglen Cyswllt Ffermio yn llwyddiannus ledled Cymru.
Eich effaithFel Swyddog Datblygu, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau fferm a chymunedau gwledig ledled De Ceredigion. Trwy adeiladu perthnasoedd cryf, hwyluso rhwydweithiau gwerthfawr a chysylltu pobl â gwybodaeth, cyfleoedd a chefnogaeth, byddwch yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnesau, mabwysiadu arferion newydd a chynllunio'n hyderus ar gyfer y dyfodol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at sector amaeth mwy cynhyrchiol, cynaliadwy a gwydn yng Nghymru.
Buddiona chefnogaeth
- Cyflog cystadleuol a chyfraniad pensiwn hael gan y cyflogwr
- Cyfraniad o 50% tuag at unrhyw weithgareddau ffitrwydd megis aelodaeth campfa misol, dosbarthiadau ffitrwydd, neu glybiau chwaraeon
- 25 diwrnod o wyliau (ac 8 gŵyl banc), yn cynyddu i 27 diwrnod (+8) wrth i'ch hyd gwasanaeath cynyddu
- Tridiau ychwanegol o wyliau dros y Nadolig
- Y gallu i gario hyd at wyth diwrnod o'ch lwfans absenoldeb drosodd i'r flwyddyn ganlynol
- Parcio am ddim ymhob swyddfa
- Polisiau hyblygrwydd ('TOIL') hael gyda'r gallu i gael amser nôl fel gwyliau os yn gweithio oriau hirach
- Polisiau teuluol hael megis mamolaeth a mabwysiadu
- Digwyddiadau cymdeithasol corfforaethol rheolaidd yn cynnwys ein 'Cyrdde Mawr' yn yr Hâf ac adeg y Dolig
- Hyfforddiant a datblygiad yn y swydd
- Cyrsiau dysgu/gloywi Cymraeg am ddim, beth bynnag yw lefel eich gallu ar y funud
- Cyfarpar technegol ac unrhyw gyfarpar arbenigol sydd angen ar gyfer eich swydd
Rhaglen:
Cyswllt Ffermio - Tîm Datblygu
Math o cong:
Dros dro am oddeutu 6 mis (Cyfnod Mamolaeth)
Patrwm gwaith:
Hysbysebir y rôl fel un llawn amser (7.5 awr y dydd, Llun-Gwener).
Bydd angen gwiriad DBS llawn ar gyfer y…
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).