Gweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl
-
Healthcare
Job Description & How to Apply Below
Manylion Tâl:Gradd 8/9, SPC 26-35 £ 38,510- £47,665 Pro Rata £19.96 - £24.71 Yr Awr
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37
Prif Weithle: Ysbyty’r Barri , Parhaol
Disgrifiad: O fewn Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) ym Mro Morgannwg. Bydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd i gyfrannu at ddarparu tîm iechyd meddwl cymunedol amlddisgyblaethol i cynorthwyo'r dinesydd ar ei daith adfer.
Bydd disgwyl iddo gynnal asesiadau a llunio ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth integredig sy'n hyrwyddo annibyniaeth dinasyddion a'u gwydnwch wrth reoli eu hanawsterau iechyd meddwl a'u heffaith ar eu bywyd.
Os yw'r ymgeisydd wedi cymhwyso fel Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd disgwyl iddo hefyd cynorthwyo'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf honno.
Gwybodaeth YchwanegolOes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Manwl.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Noel Martinez-Walsh. Rheolwyr gwaith cymdeithasol.
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person ynghlwm i gael mwy o wybodaeth.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction