Swyddog Trawsnewid Cefnogaeth Busnes; Ateb Digidol Chreadigaeth
-
Restaurant/Food Service
Job Description & How to Apply Below
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gradd 6 - £30,515 - £33,119
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr
Prif Weithle: Yr Alpau, Gwenfô
Disgrifiad:
Nid rôl swyddfa gyffredin mohoni.
Rydym yn chwilio am Swyddog Trawsnewid Cymorth Busnes rhagweithiol ac arloesol i'n helpu i ailfeddwl, ailddylunio a gwella'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar draws y Cyngor.
Byddwch yn gweithio gyda thimau o bob rhan o'r sefydliad i:
- Nodi ffyrdd craffach a mwy effeithlon o weithio.
- Dadansoddi data a gwybodaeth perfformiad er mwyn cyfrannau at benderfyniadau gwybodus.
- Mapio ac adolygu prosesau busnes i ddarganfod cyfleoedd ar gyfer gwella.
- Cefnogi prosiectau trawsnewid a gwella gwasanaethau.
- Datblygu atebion digidol arloesol gan ddefnyddio rhaglenni Microsoft 365 a'r Power Platform.
- Creu dangosfyrddau ac adroddiadau deniadol sy'n troi gwybodaeth yn fewnwelediad ystyrlon.
- Helpu cydweithwyr i groesawu technolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio.
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau sefydliadol trwy arloesedd a gwelliant parhaus.
Efallai y byddwch chi'n datblygu dangosfwrdd Power BI un diwrnod. A’r diwrnod wedyn yn hwyluso gweithdy i ailgynllunio gwasanaeth neu helpu i awtomeiddio proces sydd wedi bod yn rhwystredig i staff ers blynyddoedd.
Os ydych chi'n mwynhau amrywiaeth, datrys problemau a gwneud pethau'n well, byddwch chi'n wych yn y tîm yma.
Gwybodaeth YchwanegolAm ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Joanne Dovey – j
Mae hwn yn cyfle cyffrous i ymuno â thîm blaengar a chwarae rôl allweddol wrth gyflawni newid ystyrlon ar draws y Cyngor.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr angerddol sydd wedi ymrwymo i arloesi, gwella a darparu'r gwasanaethau gorau posibl i'n cymunedau.
P'un a ydych chi'n datblygu atebion digidol, yn cyflwyno mesurau effeithlonrwydd neu'n helpu i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithredu, bydd eich gwaith yn cael effaith weladwy a pharhaol.
Os ydych chi'n hoffi gweld gwelliant, yn cael eich ysgogi gan her a’ch ysbrydoli gan arloesedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person sy’n atodedig am fwy o wybodaeth.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction