Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth Dydd; awr/diwrnod
Listed on 2026-10-10
-
Sales
Retail Sales
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gradd 4, SCP 6-7 , £26,847 - £27,274, £13.92 - £14.14
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 30 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener
Prif Leoliad Gwaith: Y Barri, Woodlands a Thrysor O’Le
Disgrifiad
:
Byddwch yn cefnogi unigolion ag anabledd dysgu a allai fod ag anghenion cymhleth hefyd, i gymryd rhan mewn cyfleoedd dydd ystyrlon yn y gymuned ac yn y ganolfan wasanaeth, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau lles. Bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau cyrru, i gludo unigolion yn ddiogel i weithgareddau, yn unol â'u cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person.
Bydd gofyn i chi roi sylw i anghenion gofal personol ac iechyd unigolion. Byddwch hefyd yn cynnal cofnodion ac yn helpu i lunio adroddiadau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwiriad DBS Angenrheidiol: Manwl Y Ddau
Trwydded Yrru: Mae'r swydd yn gofyn i chi yrru cerbydau wedi'u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn gyda thrwydded Adran 19. O ganlyniad, bydd angen i chi fod wedi dal trwydded yrru ddilys lawn sy'n cwmpasu'r defnydd o gerbydau â llaw am o leiaf 2 flynedd a bod yn 21 oed neu'n hŷn.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).