×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Stiward ar y Trên

Job in Caernarfon, Gwynedd, LL55, Wales, UK
Listing for: Festiniog Railway Company
Full Time position
Listed on 2026-02-16
Job specializations:
  • Healthcare
    Healthcare Consultant
Job Description & How to Apply Below

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri ac yn atyniad mawr i dwristiaid yng Ngogledd Cymru. Mae ein cynnig, sydd wedi'i anelu'n gryf at y farchnad dwristiaeth, ynrhagori yn ei faes.. Rydym yn gweithredu trenau bob dydd o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref.

Rydym yn chwilio am sawl person i weithio ar ein trenau ar Reilffordd Eryri.

Gallwn gynnig i chi:
  • Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
  • Contract tymhorol o ddydd Llun 23ain o Fawrth 2026 i’r dydd Sadwrn 31ain o Hydref 2026, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2027
  • Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau ysgol
  • Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâlgan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
  • Ymrestriad i gynllyn pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol
  • Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis

Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cofrestru’r cwsmeriaid yng ngorsaf Caernarfon, cyfarch teithwyr ar y tren, darparu gwybodaeth, ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd, gwerthu arweinlyfrau, yn darparu gwasanaeth lluniaeth troli wrth seddi, a chynorthwyo i ddarparu ein gwasanaeth moethus yn y dosbarth Aur.

Lleolir y swyddi hyn yn Ninas, ger Caernarfon, fodd bynnag efallai y gofynnir i aelodau'r tîm weithio o Borthmadog neu fannau cychwyn eraill ar naill ai Rheilffordd Eryri neu wasanaethau Rheilffordd Ffestiniog o bryd i'w gilydd.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd dros weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Sgiliau Craidd:
  • Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly bydd sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
  • Rhaid bod yn daclus ac yn groesawgar
  • Ymddangosiad smart gan ddilyn côd gwisg llym
  • Callu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
  • Rhagweithiol a gallu gweithio ar eich menter eich hun
  • Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol

Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Mae angen gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ar gyfer y swydd yma, byddai gwybodaeth o Gaernarfon a'r cyffiniau yn fanteisiol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, gyda hyd at 40 awr yr wythnos ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary