×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Teacher Federation Schools

Job in Caerphilly, Caerphilly County, CF83, Wales, UK
Listing for: Torfaen County Borough Council
Full Time position
Listed on 2026-05-31
Job specializations:
  • Energy/Power Generation
    Electrical Engineering
Job Description & How to Apply Below
Position: Permanent - Teacher The Federation Schools

Rhowch eich meini prawf chwilio isod a dewiswch Chwilio. I chwilio am fwy nag un eitem mewn rhestr, dewiswch y meini prawf niferus y mae eu hangen gan ddefnyddio'r allweddau 'Ctrl' neu 'Shift' ar y bysellfwrdd.

Location:

Ysgol Ffederasiwn Blenheim Road a Choed Eva.

Work outline:
Sail Amser llawn.

Athro Parhaol - Ysgolion y Ffederasiwn

Mae manylion gofynion y swydd isod. Ble mae'n berthnasol, mae'r sgiliau, cymwysterau ac aelodaeth gofynnol am y swydd yma wedi eu cynnwys hefyd.

Manylion swydd

Cyflog MPS / UPS
Oriau cytundebol 32.5
Sail Amser llawn
Pecyn Parhaol
Categori/math o swydd Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Ysgol
Dyddiad postio 28/04/2026
Cyfeirnod swydd REQ
006242

Atodiadau:
Athro Athrawes - Ysgolion y Ffederasiwn.docx, REQ
006242 Permanent Teacher - The Federation Schools.docx

Disgrifiad swydd

Hoffech chi weithio yn un o’r sefydliadau dysgu mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru?

Hoffech chi fod yn rhan o gymuned ddysgu lle, rydyn ni’n ymdrechu ym mhopeth a wnawn i:

  • Dyfu dysgwyr llwyddiannus, ffyniannus;
  • Arwain ein pobl at ragoriaeth; a
  • Newid ein cymuned a'n gwlad er gwell?

Ydych chi'n athro brwdfrydig, creadigol ac angerddol sy'n barod i wneud gwahaniaeth? Os felly, byddai ein ffederasiwn wrth eu bodd i glywed gennych.

Rydyn ni’n chwilio am athrawon dosbarth ysgogol ac ysbrydoledig fydd yn meithrin chwilfrydedd ac annibyniaeth a dod â dysgu yn fyw ar draws yr ystod oedran cynradd. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan ymgeiswyr sydd â diddordeb, profiad neu gefndir cryf mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM), a all ysbrydoli creadigrwydd, datrys problemau, ac arloesi trwy brofiadau dysgu diddorol a phwrpasol.

Yn yr un modd, rydym wedi ymrwymo’n gryf i arferion gwrth-hiliol a sicrhau bod ein dwy ysgol yn ennyn amrywiaeth a chynhwysiant yng nghalon ein cymuned. Mae hyn yn rhan ganolog o'n gwaith a'n dysgu, trwy ein gwaith gyda Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (DARPL) a phrosiect gwrth-hiliaeth cymunedol ein clwstwr ein hunain.

Mae ein Ffederasiwn yn unigryw yng Nghymru. Anelwn i sicrhau’r:

  • lefelau cyrhaeddiad uchaf i'n dysgwyr ;
  • llesiant a’r cyfleoedd dysgu proffesiynol uchaf posib i’n cydweithwyr; a’r
  • ymgysylltiad mwyaf effeithiol â theuluoedd a’r gymuned ar gyfer ein hysgolion sydd yng nghalon y gymuned.

Rydym yn sefydliad blaengar, lle mae creadigrwydd ac arloesedd, a dysgu uchel ei ansawdd yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM) yn rhan annatod o ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, cynhwysol ac ystyrlon i bob disgybl.

Os yw hon yn her sy'n ennyn cyffro ynoch, ac os ydych chi'n barod i gael eich grymuso i weithio fel aelod allweddol o'n tîm, edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Dyddiad cau: Dydd Mercher 13 Mai 2026

Tynnu’r rhestr fer: Dydd Iau 14 Mai 2026

Arsylwi Gwers a Chyfweliadau: Wythnos yn dechrau Dydd Llun 18 Mai 2026

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad:
Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w cyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn dod a nhw ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu’n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydym yn Arweinydd sy'n Hyderus o ran Anabledd cofrestredig ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i ddatblygu eu gyrfa. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio.

Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary