Fleet Mechanic HGV/LGV
Listed on 2026-06-13
-
Management
General Retail
Ymunwch â’n tîm Rydym yn chwilio am fecanig profiadol i weithio ar gerbydau nwyddau trwm ac ysgafn.
Mae ein gweithdy fflyd prysur yn gofalu am fflyd fwrdeistrefol amrywiol, gan gynnwys cerbydau ailgylchu ymyl palmant a sbwriel, ysgubwyr ffordd a phalmant, cerbydau tipio, lorïau graeanu a llawer mwy.
Byddwch hefyd yn mynd at gerbydau sydd wedi torri i lawr ac yn derbyn galwadau y tu allan i oriau, a bydd premiwm yn cael ei dalu am hynny.
Gymwysterau Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw, Atgyweirio, Profi ac Archwilio Cerbydau Nwyddau Trwm
O leiaf 12 mis o brofiad o baratoi cerbydau ar gyfer profion MOT
Trwydded Yrru Dosbarth C neu CE
Y gallu i weithio i derfynau amser mewn amgylchedd gwaith prysur Pam ymgeisio?
Sifftiau 7am-3pm ac 11am-7pm
Goramser a phremiwm am alwadau y tu allan i oriau - 26 diwrnod o wyliau gwyliau banc cynllun pensiwn hael
Gostyngiad ar Aelodaeth Ffit Conwy
Cyfle i fod yn rhan o’n trosglwyddiad i fflyd drydan
Datblygu a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o fecanyddion fflyd drwy Brentisiaethau Cenedlaethol, mewn partneriaeth â’r coleg Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ian Jones, Rheolwr Fflyd / ) Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymnol ar gyfer y swydd hon.
Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: