Policy and Communications Officer
Listed on 2026-06-12
-
Business
Business Development
Mae RhCM Cymru yn chwilio am Swyddog Polisi a Chyfathrebu i weithio gyda'n tîm bach ac ymroddedig ar ystod o brosiectau cyffrous ac effeithiol i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.
RhCM Cymru yw'r brif elusen cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sy'n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb gyfle ac awdurdod cyfartal i siapio cymdeithas a'u bywydau eu hunain.
Fel sefydliad ag aelodau, rydym yn gweithio mewn cynghrair â'n haelodau sefydliadol ac unigol gan gysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo menywod i wireddu ein gweledigaeth.
Mae'r rôl hon yn cyfuno datblygu polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth â chyfathrebu effeithiol er mwyn sbarduno cynnydd ystyrlon tuag at gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Byddwch yn ymchwilio i'r rhwystrau i gydraddoldeb rhywedd ac yn datblygu argymhellion polisi clir – trwy lens groestoriadol bob amser. Byddwch yn defnyddio mewnwelediadau'r gwaith hwn i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, i ymgysylltu ag aelodaeth amrywiol RhCM ac i lunio barn y cyhoedd er mwyn ysgogi newid go iawn.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ymchwilio a drafftio ysgrifennu a chynnwys effeithiol a hygyrch ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys llunwyr polisi, cefnogwyr ymgyrchu a'r cyhoedd ehangach. Byddwch yn gwybod sut i adnabod ac adeiladu perthnasoedd â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, bydd gennych ymwybyddiaeth wleidyddol gref, a'r gallu i feddwl yn strategol. Byddwch hefyd angen llygad da am fanylion a sgiliau hunanreoli rhagorol gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion croes mewn amgylchedd lle mae pethau’n symud yn gyflym.
Os ydych chi'n angerddol am gydraddoldeb rhywedd, os ydych chi'n cael eich ysgogi i wneud newid gwirioneddol i fenywod yng Nghymru, ac os oes gennych sgiliau ymchwil a chyfathrebu rhagorol, gallai hon fod y rôl i chi.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad byw o wahaniaethu croestoriadol.
- Yr hawl i wyliau blynyddol hael
- Pensiwn cyfrannol
- Gweithio hyblyg
- Wythnos pedwar diwrnod (cyfnod brawf tan fis Gorffennaf 2026, gyda’r posibilrwydd o’i fabwysiadu’n barhaol)
Lleoliad
:
Hybrid - gartref a'r swyddfa yng Nghaerdydd
Oriau gwaith:37.5 awr yr wythnos (30 awr ar hyn o bryd fel rhan o'n treial wythnos pedwar diwrnod)
Math o gontract
:
Tymor penodol o 1 flwyddyn gyda'r posibilrwydd o’i ymestyn
- Cyfweliad ar-lein:Wythnos sy’n dechrau 8 Mehefin
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: