Uwch Ddarlithydd mewn Y Gyfraith
Listed on 2026-07-18
-
Business
Business Development
Mae Ysgol Reoli Caerdydd wedi'i lleoli mewn cyfleuster o'r radd flaenaf sy’n agos at galon y brifddinas, ac mae'r Brifysgol yn cynnig portffolio amrywiol o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae adran y Gyfraith wedi’i lleoli yn yr Ysgol ac mae'n chwarae rhan ganolog wrth gyflawni uchelgeisiau Cynllun Strategol y Brifysgol (Strategaeth 2030).
Mae YRC yn ddarparwr addysg Busnes a Rheoli uchelgeisiol ac achrededig. Mae cyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid;
Busnes, Rheoli a'r Gyfraith;
Marchnata a Strategaeth; a Rheoli Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau. Mae staff yn falch iawn o'u cyfraniad sylweddol tuag at adfywiad rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Yn 2024, daeth yr Ysgol y Brifysgol gyntaf yng Nghymru a'r drydedd yn unig yn y DU i dderbyn label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheolaeth am yr effaith economaidd gadarnhaol y mae'r Ysgol yn ei chael ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae'r Ysgol yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda thua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli yn ein partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Mae Adran Busnes, Rheoli a'r Gyfraith Ysgol Reoli Caerdydd yn chwilio am Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith gyda phroffil troseddeg cryf a ffocws cymdeithasol-gyfreithiol ac athrawiaethol clir. Mae hwn yn benodiad strategol bwysig a fydd yn cryfhau darpariaeth gynyddol yr Adran ar groesffordd y gyfraith, troseddeg, cyfiawnder a pholisi cyhoeddus.
Mae'r Adran yn cyflwyno ystod o raglenni'r gyfraith hynod lwyddiannus, gan gynnwys LLB (Anrh), BA (Anrh) y Gyfraith a Throseddeg, BA (Anrh) Cyfraith a Rheoli Busnes, a llwy Sylfaen mewn Astudiaethau Cyfreithiol. Yn 2024, lansiodd yr Adran Clinig Cyfraith Entrepreneuraidd YRC, gan ddarparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth i fyfyrwyr ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol mewn lleoliad go iawn. Mae addysgu ar draws yr Adran yn blaenoriaethu cyflogadwyedd, sgiliau proffesiynol a ddatblygiad personol, tra'n lleoli'r gyfraith yn gadarn o fewn ei chyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a throseddol ehangach.
Mae'r dull hwn yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n feirniadol â rôl y gyfraith wrth lunio cyfiawnder, anghydraddoldeb a chanlyniadau cymdeithasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysgolhaig cyfreithiol sydd a phrofiad o droseddeg, sy'n gallu cyfrannu at addysgu ar lefel israddedig ar draws rhaglenni cyfraith a throseddeg, gyda chryfder arbennig mewn meysydd sy'n archwilio troseddu, cyfiawnder a rheoleiddio o safbwynt cyfreithiol. Bydd disgwyl iddynt gefnogi datblygiad y cwricwlwm, cyfrannu at ymchwir ac ysgolheictod, a gwella ethos addysgu cymhwysol sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol yr Adran.
Deiliady Rôl Yn Cyfrannu At Addysgu Ar Draws Ystod o Fodiwlau Israddedig, Gyda Diddordebau Addysgu Ac Ymchwil Wedi'u Halinio Ag Un Neu Fwy O'r Meysydd Canlynol
- Cosb a Chyfiawnder
- Mynediad at Gyfiawnder
- Cyfiawnder Troseddol ac Ymatebion Cyfreithiol i Droseddu
- Cyfraith Teulu a Chyfiawnder Cymdeithasol
- Datrys Anghydfodau Amgen
- Sgiliau Cyfreithiol a Phroffesiynol
- Terfysgaeth, radicaleiddio a thrais
- Cyfraith a Systemau Rhyngwladol a Chymharol
- Goruchwylio traethodau neu brosiectau blwyddyn olaf
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i arbenigwr troseddeg sydd â sylfaen gyfreithiol gref i lunio cwricwlwm arloesol, sy'n canolbwyntio ar ymarfer ac i gyfrannu'n ystyrlon at ddadleuon ynghylch y gyfraith, trosedd a chyfiawnder mewn cymdeithas.
Prif Ddyletswyddau a ChyfrifoldebauBydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig yn ein darpariaeth y Gyfraith a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni…
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: