×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X
More jobs:

Trainee Journalist - Welsh Language (12-month FTC)

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: ITV
Full Time, Contract, Apprenticeship/Internship position
Listed on 2026-08-06
Job specializations:
  • Creative Arts/Media
    Journalism
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 18000 - 26000 GBP Yearly GBP 18000.00 26000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

The Role

Wyt ti'n hoffi siarad gyda phobol a busnesa?!

Oes gen ti'r ddawn i fod y cyntaf i wybod y clecs a'r newyddion diweddaraf?

Eisiau creu cynnwys ar gyfer gwasanaeth Newyddion digidol S4C a gweithio ar gyfresi materion cyfoes fel Y Byd ar Bedwar a Y Byd yn ei Le?

Dyma dy cyfle felly i adrodd straeon a bod yn rhan o dîm cynnwys newyddion digidol a materion cyfoes Cymraeg ITV Cymru.

Mae hwn yn gynllun newydd gan ITV Cymru ac S4C i feithrin newyddiadurwyr y dyfodol. Felly os wyt ti'n greadigol a'n gallu gweithio'n dda dan bwysau, yn angerddol am ddatblygu cynnwys ar gyfer platfformau digidol ac eisiau cael profiad o dorri straeon newydd, dyma'r lle i ti gael blas o'r cyfan dan arweiniad tîm o newyddiadurwyr profiadol.

Byddi yn derbyn 12 mis o hyfforddiant ymarferol ac yn datblygu sgiliau angenrheidiol newyddiaduraeth. Byddi yn angerddol am gynnwys amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd yn cael eu tan-cynrychioli gan awchu i ddatblygu dy sgiliau technegol yn ogystal â newyddiadurol.

Hanfodol:
  • Diddordeb brwd ym myd newyddiaduraeth Cymru a thu hwnt.
  • Adnabyddiaeth gadarn o ffynonellau newyddion amrywiol.
  • Sgiliau ymchwilio i sicrhau cywirdeb a thegwch.
  • Gallu ymdopi gyda sefyllfaoedd heriol a gweithio i derfynau amser dyddiol.
  • Ymwybyddiaeth wych o blatfformau digidol amrywiol
  • Cymraeg safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Yn ddymunol:
  • Profiad ym myd newyddiaduraeth.
  • Trwydded yrru.

Mae amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni eisiau adlewyrchu ein cynulleidfa - ar y sgrin ac yn ein gweithle. Mae ITV ar gyfer pawb, ac rydyn ni'n annog pobl Fyddar, pobl anabl, pobl niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y swyll yn yma.

Mae'r ystafell newyddion yn lle prysur, gyda chynyrchiadau newyddion byw, sy'n aml yn gofyn i gydweithwyr gwneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Mae angen pobl sydd yn gallu cymryd camau ar eu liwt eu hunain, ac yn enwedig ar gyfer swyddi golygyddol, pobl sy'n gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen a sut i fynd ati i'w chwilio.

Mae'n rhaid i ni brofi'r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw'n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o'r broses gyfweld - er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny'n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol - ond eto gan sicrhau ein bod ni'n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio'n effeithiol yn yr ystafell newyddion.

Do you love chatting and being nosey?

Have you got a knack for being the first to know the latest news and gossip?

Do you want to create content for S4C's digital news service and work on flagship current affairs programmes like Y Byd ar Bedwar and Y Byd yn ei Le?

This is your chance to tell stories and join ITV Cymru Wales' Welsh-language digital news and current affairs team.

This is a new scheme by ITV Cymru and S4C designed to nurture future journalists. So if you're creative, thrive under pressure, passionate about developing content for digital platforms, and eager to break new stories, this is your chance to get a taste of it all, guided by a team of experienced journalists.

You’ll receive 12 months of hands‑on training and develop essential journalism skills. You’ll be passionate about bringing in a diverse range of voices and stories from underrepresented communities across Wales, with a strong drive to build both your technical and journalistic skills.

Essential:
  • A keen interest in journalism in Wales and beyond.
  • A strong knowledge of diverse news sources.
  • Research skills to ensure accuracy and fairness.
  • Ability to handle challenging situations and work to daily deadlines.
  • Excellent awareness of various digital platforms.
  • Fluency in Welsh language (both spoken and written).
Desirable:
  • Experience in journalism.
  • Driving licence.

Diversity, Equity and Inclusion is at the heart of what we do at ITV Cymru Wales and we want to ensure we reflect our audience both on screen and in our workforce. ITV is for Everyone and we encourage applications from Deaf, Disabled and Neurodivergent people and People of Colour to apply for this role.

Newsrooms…

Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary