×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Cyfarwyddwr Anweithredol - Cyllid

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Acorn by Synergie
Full Time position
Listed on 2026-02-13
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Job Description & How to Apply Below
Rydym yn recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol (Cyllid) ar gyfer Partneriaeth Actif Canolbarth y De.

Mae PACD yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant, dan fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth graidd y strwythur hwn mae Bwrdd Cyfarwyddwyr medrus, cynhwysol ac amrywiol a fydd yn gweithio gyda'n partneriaid er mwyn llywio a gweithredu ein cyfeiriad strategol.

Manylion Allweddol

Yr ymrwymiad amser a amcangyfrifir ar hyn o bryd yw 0.5 - 1.0 diwrnod y mis.
Amlder cyfarfodydd:
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd wyneb yn wyneb ac mae opsiwn i gael mynediad o bell. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bob dau fis ac fel arfer byddant yn para am 2 awr.
Cyfnod: Y cyfnod yn y swydd yw 3 blynedd. Ni chaiff unrhyw Gyfarwyddwr Anweithredol wasanaethu am fwy na dau gyfnod olynol o 3 blynedd yn y swydd.
Cydnabyddiaeth:
Gwirfoddol. Telir costau teithio a chynhaliaeth ar ein cyfraddau safonol yn unol â'n Polisi Teithio a Chynhaliaeth.

Cyfrifoldebau Allweddol

Darparu arweinyddiaeth strategol effeithlon ac effeithiol i Bartneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD).
Cynnal a gweithio tuag at weledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd, ymddygiadau, ac amcanion PACD a sicrhau bod y sefydliad yn parhau i weithio tuag at y rhain.
Sicrhau bod PACD yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a llywodraethol perthnasol.
Hybu dulliau darbodus ac effeithiol o reoli adnoddau'r sefydliad (ariannol a dynol).
Sicrhau bod strategaethau a pholisïau yn eu lle a fydd yn cefnogi amcanion PACD.
Hyrwyddo gwaith PACD a gweithredu fel llefarydd i PACD os bydd angen.
Darparu cyfeiriad ariannol strategol er mwyn cynorthwyo PACD i gyflawni ei amcanion strategol.
Darparu cyfeiriad strategol er mwyn sicrhau bod PACD yn gadarn o safbwynt ariannol ac yn gynaliadwy.
Sicrhau bod PACD yn cydymffurfio'n llwyr ag unrhyw rwymedigaethau statudol a rheoleiddiol.
Y gallu i weithredu â phroffesiynoldeb a gonestrwydd.

Gofynion Hanfodol

Ymrwymiad i degwch, cynhwysiant, ac amrywiaeth.
Y gallu i feddwl yn strategol.
Profiad o arweinyddiaeth ariannol yn dangos cyfrifoldeb am arwain, llywio neu gyfrannu at strategaeth ariannol, stiwardiaeth a llywodraethiant y sefydliad.
Profiad o sganio'r gorwel ariannol a chynllunio hirdymor er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau.
Y gallu i ddarparu mewnwelediad ariannol er mwyn llywio penderfyniadau buddsoddi a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy a chreu gwerth.
Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth ariannol yn glir ac yn gryno i randdeiliaid anariannol.
Dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn ar ein gwefan

Suit i ymgeisio

Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

CV wedi'i ddiweddaru
Datganiad ategol (dim mwy nag un dudalen) yn amlinellu pam rydych yn dymuno ymuno â'r bartneriaeth a pham rydych yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at fanyleb y person.

Dyddiad Cau:
Hanner nos 11 Mawrth

Dyddiad Cyfweld: 1 Ebrill 2026

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary