×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Electric Vehicle Charging Project Manager; Insights | Rheolwr Prosiectau Gwefru Cerbydau Tryda

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Transport for Wales
Full Time position
Listed on 2026-02-16
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Job Description & How to Apply Below
Position: Electric Vehicle Charging Project Manager (Insights) | Rheolwr Prosiectau Gwefru Cerbydau Tryda[...]

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.

Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

Cyfrifoldebau’r

swydd

Pwrpas y rôl yw cyflawni prosiectau a chynghori a helpu rhanddeiliaid allweddol gyda chynigion prosiect i ddatblygu atebion gwefru Cerbydau Trydan yng Nghymru.

  • Cefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglen gwefru Cerbydau Trydan Trafnidiaeth Cymru (TrC) a pholisi ehangach Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn, adrodd a llywodraethu'n briodol i gyflawni gweithgareddau o'r fath yn unol â'r amserlen, y gost a'r ansawdd a ddisgwylir.
  • Arwain, datblygu a gwreiddio procesau casglu, dadansoddi a deall data sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y tîm Datgarboneiddio drwy weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi penderfyniadau sy'n cael eu harwain gan ddata, a manteisio i'r eithaf ar setiau data presennol a newydd i ddangos yn glir cyflymder, graddfa ac ansawdd o ran defnyddio seilwaith cerbydau trydan ledled Cymru.
  • Darparu gwybodaeth ddibynadwy i TrC, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer ac allbynnau, gan gynnwys dangosfyrddau ac adroddiadau, wrth weithredu prosiectau cysylltiedig lle bo hynny'n briodol.
  • Darparu gwybodaeth drwy ddatblygu a chynnal cynllun data a gwybodaeth blynyddol i lywio penderfyniadau allweddol, pennu cyllidebau a blaenoriaethau strategol gan TrC a sefydliadau partner.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
  • Gradd berthnasol megis Busnes, Peirianneg (neu debyg) neu brofiad cyfatebol.
  • Meddu ar gymhwyster rheoli prosiectau fel APM neu PRINCE2 neu debyg.
  • Profiad o reoli prosiectau uchel eu proffil a/neu gymhleth drwy gylch oes cyfan.
  • Profiad o reoli cyllideb prosiect, gan gynnwys llunio rhagolygon a monitro gwariant.
  • Profiad amlwg o ddadansoddi a dehongli data meintiol ac ansoddol i gyflwyno canfyddiadau a gwneud argymhellion strategol a thactegol.
Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y proses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary