Cynorthwyydd Neuaddau
Listed on 2025-12-30
-
Doctor/Physician
Healthcare Consultant, Surgeon
Join to apply for the Cynorthwyydd Neuaddau (2526136) role at Cardiff Metropolitan University
Fel Cynorthwyydd Neuaddau, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gwasanaeth cryf yn cael ei ddarparu i'n myfyrwyr a'n cwsmeriaid. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth a chefnogaeth, gweithio gyda Rheolwr y Neuaddau i gefnogi datblygiad parhaus y gwasanaeth, gan wneud y mwyaf o'r budd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd a'r myfyrwyr preswyl. Byddwch yn cynorthwyo Rheolwr y Neuaddau a Phennaeth Llety Preswyl i weithredu'r gwasanaeth yn effeithlon ac yn broffesiynol.
Byddwch yn cael eich penodi i un o ddau safle:
Plas Gwyn neu Gyncoed
. Bydd deiliad sywydd wedi'i leoli ar ei safle dynodedig, ac yn darparu cefnogaeth o ddydd i ddydd i breswylwyr a chydweithwyr. Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi hefyd ddarparu cymorth cyflenwi a chymorth traws-safle yn y lleoliad arall pan fydd anghenion busnes yn codi, gan sicrhau gwasanaeth cyson ac o ansawdd uchel.
- Gweithredu fel cyswllt cyfathrebu rhwng holl ddefnyddwyr Gwasanaethau Llety Preswyl, gan gynnwys myfyrwyr, gwesteion, contractwyr, Rheolwyr Neuaddau a staff eraill Met Caerdydd.
- Bod yn rhan o ddarparu gofal bugeiliol i drigolion a meithrin ysbryd cymunedol cefnogol.
- Darparu gwasanaeth o safon uchel i sicrhau bod disgwyliadau myfyrwyr yn cael eu cefnogi'n gyson ac i sicrhau rhagoriaeth a chysondeb gwasanaethau i fyfyrwyr ar draws yr holl Neuaddau Preswyl.
- Dyletswyddau gweinyddol a chyllid cyffredinol, gan gynnwys datblygu llenyddiaeth.
- Cynorthwyo i baratoi, llunio a chyflwyno cyflwyniadau i fyfyrwyr a chwsmeriaid.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gallu gwrando cryf, ac empathi, ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol. Fel ein Cynorthwyydd Neuaddau, byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddod â phrofiad profedig o drin ymholiadau yn broffesiynol a datrys cwynion yn effeithiol.
Yn ogystal, bydd gennych lefel dda o sgiliau gweinyddol, a'r gallu i baratoi a chyflwyno cyflwyniadau deniadol. Mae gwybodaeth a phrofiad da gyda systemau ariannol a TG yn bwysig, ynghyd â'r gallu i weithio'n annibynnol a threfnu a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.
Rydymyn Cynnig Buddion Rhagorol
- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
- Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Am ragor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Lisa Ah-Mun, Halls Manager, at
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 07 Jan 2026
Ysgol/Uned:
Proffesiynol a Chymorth
Cyflog: £28,031 to £28,778 y flwyddyn
Parhaol
Seniority levelEntry level
Employment typeFull-time
Job functionOther
IndustriesHigher Education
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: