Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel - Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG/Education
Listed on 2026-01-07
-
Doctor/Physician
Surgeon, Healthcare Consultant
Prentisiaeth Cynhyrchu - Lefel 3 - BBC Cymru Wales Addysg - Caerdydd - CYMRAEG / Education Cardiff
Math o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis
Adran: Meithrin Potensial
Lleoliad: Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog
Cyflog: £22,950
AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
PAMYMUNO Â’R CYNLLUN?
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith.
Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.
Adran gynhyrchu a chomisiynu yw BBC Cymru Addysg, sy'n gweithio ar un o wasanaethau mwyaf y BBC i bobl ifanc, sef BBC Bitesize. Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar sy'n gwneud cynnwys ffres, dwyieithog i bobl ifanc 3-16 oed sy'n cael ei weld gan filiynau. Mae ein cynnwys yn ennyn chwilfrydedd ac yn annog dysgwyr ledled Cymru i feddwl! O'r syniad cyntaf un i'r lansiad mawr, byddwch yn ganolog i bopeth, yn gweithio ochr yn ochr â thimau golygyddol a thechnegol gwych i helpu i ddod â chynnwys newydd sbon o ansawdd uchel yn fyw.
Mae cenhadaeth BBC Addysg yn syml - gweddnewid bywydau drwy ddysgu. Yn ystod cyfnodau clo'r ysgolion, roedd yr adran wedi darparu’r gwasanaeth addysgol mwyaf yn hanes y BBC drwy BBC Bitesize a daeth cynulleidfaoedd newydd enfawr i ddarganfod ein cynnwys. Rydym ni wedi cynnal y momentwm hwnnw, gan greu mwy fyth o gynnwys cyffrous i ddysgwyr ledled Cymru.
- Rhoi profiad dysgu personol i bob plentyn yn y DU drwy BBC Bitesize, sy'n denu dros 2 filiwn o ddefnyddwyr yr wythnos
- Cefnogi ac ysbrydoli dysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy greu cynnwys o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm
- Mynd i'r afael â bylchau addysgol a chymdeithasol ledled y DU drwy ymgysylltu ag ymgyrchoedd addysgol
- Dysgu sut rydym ni'n ffilmio ac yn darparu cynnwys ffilm i bobl ifanc
- Dysgu am y broses o gomisiynu a chynhyrchu animeiddiadau
- Cael cyfleoedd i gynhyrchu cynnwys cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo
- Ymweld ag ysgolion i ddeall anghenion ein dysgwyr
- Datblygu dealltwriaeth o'r haenau o brosesau cynhyrchu sydd eu hangen i wneud cynnwys addysgol diddorol a digidol ar gyfer un o frandiau mwyaf y BBC.
Byddwch chi'n dysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (wythnos neu ddwy ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol. Bydd y blociau dysgu’n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb.
EICHSGILIAU A’CH CYMHWYSEDD
- Brwdfrydedd, dychymyg a dawn greadigol
- Angerdd dros gynnwys dysgu digidol
- Diddordeb gwirioneddol mewn animeiddio
- Awdur creadigol ysbrydoledig
- Dealltwriaeth neu barodrwydd i ddysgu beth sy'n cadw cynulleidfaoedd i wylio ein cynnwys
- Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
- Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
- Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
- Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd
- Nid oes angen unrhyw ddysgu blaenorol i wneud cais.
Ar gyfer ymgeiswyr o dan 19 oed ar 8 Medi 2026: I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod wedi cael Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn:
Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif o fewn 12 mis cyntaf y brentisiaeth.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: