Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau; AUC/Pontio GGA
Listed on 2026-02-15
-
Doctor/Physician
Surgeon
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol cymwys ymuno â’r Tîm Gofal Maeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau.
Byddai hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau Gwarcheidiaeth Arbennig ac Asesiadau Unigolion Cysylltiedig gan gynnwys asesiadau pontio ar gyfer y gofalwyr hynny sy'n dilyn trefniant Gwarcheidiaeth Arbennig.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy'n Awdurdod ar y daith weithredu sy'n defnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu dull o weithio gyda phlant a'u teuluoedd.
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd.
Rhaid i'r ymgeisydd addas ddangos ei fod yn bodloni'r gofynion ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol Asesiadau Gradd 8 yn y Tîm Gofal Maeth fel y disgrifir yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
Byddwch yn gyfrifol am asesu aelodau o'r teulu sy'n rhoi eu hunain ymlaen i ddod yn ofalwyr maeth perthynas, Gwarcheidwaid Arbennig a/neu ofalwyr maeth sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd sy'n dymuno dilyn Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig. Bydd yn rhaid i chi allu esbonio'r manteision a'r gwahaniaethau o ddod yn ofalwr maeth perthynas neu Warcheidwad Arbennig i'r plentyn/plant yn eu gofal.
Yrhyn rydym yn gofyn gennych chi
- Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gyfwerth) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon a rhaid i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig a meddu ar sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno.
- Bydd gennych brofiad gwaith o weithio gyda gofalwyr maeth a/neu Warcheidwaid Arbennig a gwybodaeth amlwg yn y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol.
- Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG da.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu amddiffyn.
Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bw...
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: