Hyfforddwr Ffitrwydd
Listed on 2026-09-21
-
Doctor/Physician
Surgeon, Healthcare Consultant
Chwaraeon Met Caerdydd yw'r grym y tu ôl i chwaraeon, gweithgarwch corfforol, iechyd a llesiant ym Mhrifddinas Cymru. Mae ein cenhadaeth yn glir - 'gwella bywydau ein cymunedau yn sylweddol, gan eu gwneud yn iachach ac yn gryfach o ganlyniad i ymgysylltu â ni'. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag ystod o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddatblygu a rheoli cyfleusterau chwaraeon sy'n arwain y sector gan gynnwys, y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, Canolfan Tenis ac Arena’r Saethwyr ar ein Campws Cyncoed ynghyd â nifer o Ysgolion yr 21ain Ganrif ledled y Ddinas.
Fel Cynorthwyydd Ffitrwydd, byddwch yn cynorthwyo'r Rheolwr Ffitrwydd i ddarparu gwasanaethau'n effeithlon, effeithiol ac economaidd a defnyddio adnoddau i fodloni gofynion Chwaraeon Met Caerdydd.
O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Ffitrwydd, byddwch yn sicrhau bod y cyfleusterau chwaraeon a'r ardaloedd cysylltiedig, y rhaglen chwaraeon a'r gwasanaethau a ddarperir o'r safon groau yn ystod oriau agor.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned.
Cyfrifoldebau a chyfraniadau allweddol- Gweithio yng Nghanolfannau Ffitrwydd Cyncoed a Llandaf.
- Cynorthwyo'r Rheolwr Ffitrwydd i weithredu hyfforddiant sefydlu, profion ffitrwydd, personol, rhaglenni ffitrwydd, a sicrhau bod anghenion myfyrwyr, staff, grwpiau anabl a defnyddwyr allanol yn cael eu diwallu.
- Bod yn bresenoldeb ac gyfrifoldeb dros y Canolfannau, yr offer a'r cwsmeriaid yn ystod oriau dyletswydd.
- Bod yn gyfrifol am lanhau bob dydd, ac am gynnal gwiriadau / cynnal a chadw arferol yr offer ffitrwydd ac i lanhau ar hap yn y Canolfannau a'r ardaloedd cysylltiedig yn ôl yr angen.
- Cyflwyno / cyfarwyddo dosbarthiadau ffitrwydd ar y cyd ag amserlen y dosbarth ffitrwydd.
- Rhoi cefnogaeth i'r rheolwr ffitrwydd wrth ddarparu a hyrwyddo mentrau prifysgol iach.
- Cynorthwyo'r Rheolwyr Dyletswydd i roi'r rhaglen chwaraeon ar waith, gan sicrhau bod anghenion myfyrwyr, staff a defnyddwyr allanol yn cael eu diwallu ar Gampysau Cyncoed a Llandaf.
- Cynorthwyo i hyrwyddo'r Aelodaeth Chwaraeon a Ffitrwydd a rhoi aelodaeth i fyfyrwyr, staff a chwsmeriaid allanol.
- Cymhwyster Lefel 2 REPS / CIMSPA.
- Dealltwriaeth dda o faterion gofal cwsmeriaid ac iechyd a diogelwch
- Y gallu i weithio yr un mor gyfforddus fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
- Sgiliau cyfathrebu a rheoli amser effeithiol.
- Sgiliau trefnu da.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.
RydymYn Cynnig Buddion Rhagorol Fel
- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
- Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i cyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
I gael mwy o fanylion am y rôl, cysylltwch ag Allison Jones ar
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei ddefnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 28 Sep 2026
Ysgol/Uned:
Proffesiynol a Chymorth
Cyflog: £28,031 to £28,778 y flwyddyn
Tymor penodol 1 blwyddyn
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).