×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Cyfieithydd – Cymraeg, Cymraeg Hanfodol; Dyddiad Cau

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
Full Time position
Listed on 2026-10-07
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    OB/GYN Physician
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 30993 - 37330 GBP Yearly GBP 30993.00 37330.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfa hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru’n Gweithio.

Cyfieithydd – Cymraeg – Cytundeb am hyd at 12 mis (dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth)

Cyflog: £30,993 – £37,330, Y cyflog cychwynnol yw £30,993

Oriau: Amser llawn (37 awr yr wythnos)

Lleoliad: Gan fod gennym nifer o ganolfannau ledled Cymru, fe bennir canolfan waith yr ymgeisydd llwyddiannus pan fyddwn yn gwneud y penodiad.

Dyddiad cau: 13/10/26

Mae sgiliau Cymraeg hyfedr yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gan weithio o fewn maes gwasanaeth Digidol a Chyfathrebu Gyrfa Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am wasanaeth cyfieithu a’i ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod cynnwys cynhyrchion ein gwefan yn diwallu anghenion defnyddwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio llawer iawn o gynnwys a gyfieithwyd gan beiriant ac yn cyflawni rôl sicrhau ansawdd er mwyn cadw ystyr y testun gwreiddiol mor agos â phosibl.

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys gweithio ar wasanaethau’r wefan, lle mae angen diweddaru a chyhoeddi llawer iawn o ddata yn rheolaidd o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

Bydd y rôl yn cyfrannu at sicrhau bod Gyrfa Cymru yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gan helpu i sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog cyson o ansawdd uchel ar gael i’n cwsmeriaid.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar:
  • Cymhwyster ar lefel gradd
  • Profiad amlwg o gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg
  • Lefel hyfedr o ran sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma’r peth iawn i’w wneud!

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi’u cynllunio - nid gan eu amhariad neu eu gwahaniaeth.

Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon.

Dylid cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn 13/10/26.

Cynhelir yr asesiadau ar 02/11/2026, ac yna’r cyfweliadau ar 03/11/2026.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary