Rheolwr Prosiect Mlynedd o Dreftadaeth
-
Doctor/Physician
Job Description & How to Apply Below
50 Mlynedd o The Wallich
- Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
Neges gan Sian Aldridge, Y Prif Weithredwr
Wrth i The Wallich ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed, mae gennym gyfle pwysig i fyfyrio ar ein hanes ar yr un pryd ag edrych yn gadarn tuag at y dyfodol. Ers pum degawd, rydym ni wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n ddigartref ledled Cymru, gan herio anghyfiawnder, cynyddu lleisiau a gweithio i greu newid parhaol.
Mae’r rÿl hon yn ganolog i gofnodi’r etifeddiaeth honno. Drwy ddod â’r profiadau, yr atgofion a'r deunyddiau sydd wedi siapio ein sefydliad a stori ehangach digartrefedd yng Nghymru at ei gilydd, bydd y prosiect hwn yn helpu i sicrhau bod lleisiau sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cadw am genedlaethau i ddod.
Fel y gwelwch drwy gydol y pecyn hwn, rydym ni’n chwilio am weithiwr treftadaeth proffesiynol profiadol ac arweinydd prosiect medrus sy’n gallu troi gweledigaeth uchelgeisiol yn rhaglen gynhwysol, rymus a chyflawnadwy. Byddwch yn gydweithredol ac yn chwilfrydig, yn gallu meithrin perthnasoedd dibynadwy ar draws cymunedau a sectorau, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu cydnabod fel awduron a cheidwaid eu hanes eu hunain.
Os ydych chi’n rhannu ein cred y gall treftadaeth herio canfyddiadau, cryfhau dealltwriaeth ac ysbrydoli newid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Dyma gyfle prin i helpu i siapio casgliad ac arddangosfa o bwys cenedlaethol, ac i greu gwaddol parhaol wrth i The Wallich ddechrau ar ei 50 mlynedd nesaf.
Oriau Gwaith: 37.5 awr yr wythnos, Dydd Llun
- Dydd Gwener 09:00-17:00 gyda rhywfaint o hyblygrwydd
Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich. Dysgwch ragor am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru
Helpwch i greu casgliad cenedlaethol cyntaf Cymru sy’n ymroddedig i dreftadaeth ddigartrefedd.Ers 50 mlynedd, mae The Wallich wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n ddigartref. Bydd y prosiect pwysig hwn yn dwyn ynghyd lleisiau, atgofion a deunyddiau a allai gael eu colli fel arall - a sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu cydnabod fel awduron a cheidwaid y rhan bwysig hon o hanes Cymru.
Gan weithio gyda chymunedau ledled Cymru, ochr yn ochr ag ymgyrchwyr arloesol, academyddion ac arbenigwyr treftadaeth, byddwn yn datgelu ac yn diogelu hanesion llafar, ffotograffau, dogfennau ac arteffactau. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn adrodd stori onest a phwerus am sut mae digartrefedd wedi newid dros y pum degawd diwethaf, a beth sydd angen ei newid o hyd i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Bydd arddangosfa amlgyfrwng ddwyieithog, wedi’i llunio gan waith ymchwil gan gymheiriaid, adrodd straeon ar y cyd a mynegiant creadigol yn ganolog i’r prosiect. Bydd yn herio canfyddiadau, yn ehangu mynediad at dreftadaeth ac yn ysbrydoli sgyrsiau newydd am ddigartrefedd. Bydd y casgliad yn creu gwaddol cenedlaethol parhaol, gan sicrhau bod y profiadau hyn yn llywio dealltwriaeth y cyhoedd, arferion proffesiynol a newid am genedlaethau i ddod.
Yr effaith y byddwch yn ei chaelDyma gyfle i siapio prosiect treftadaeth sydd o bwys cenedlaethol, o lawr gwlad i fyny.
Gyda chymorth grant cam datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth The Wallich ac yn helpu i droi gweledigaeth uchelgeisiol yn rhaglen ddiddorol a chyflawnadwy. Bydd eich gwaith yn ganolog i sicrhau cyllid cyfnod cyflenwi a chreu etifeddiaeth barhaol i Gymru.
Byddwch yn dod â phobl sydd â phrofiad bywyd, prifysgolion, sefydliadau treftadaeth, grwpiau cymunedol a chydweithwyr ar draws The Wallich at ei gilydd. Byddwch yn cydlynu…
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction