×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Rhyngbroffesiynol

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position
Listed on 2026-07-11
Job specializations:
  • Healthcare
    Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 53301 - 61759 GBP Yearly GBP 53301.00 61759.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Rhyngbroffesiynol (2526516)

Cyflog:
Gradd 8A/B, £53,301 – £61,759 y flwyddyn pro rata

Oriau: 22.2 awr yr wythnos

Daliadaeth:
Parhaol

Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn i ddderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i cefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.

Prif

ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir Addysg Rhyngbroffesiynol (Arh) gan hwyluso dylunio a gweithredu strategaethau ARh arloesol a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir ichi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.

Beth rydym yn chwilio amdano
  • Gwybodaeth fanwl am y pwnc arbenigol a’r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth fanwl o addysgeg.
  • Dealltwriaeth fanwl o ymchwil/mentergarwch a gweithgarwch ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddylunio, datblygu a chyflwyno amrywiaeth o raglenni ar wahanol lefelau.
  • Y gallu i adolygu cynllun rhaglenni’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau ansawdd a rheoliadau academaidd ac i wneud addasiadau lle bo hynny'n briodol.
  • Y gallu i gyfrannu at wireddu Cynllun Datblygu’r Ysgol a phrosesau cynllunio strategol y sefydliad.
  • Y gallu i ddatblygu amcanion ymchwil, paratoi cynigion, cynnal ymchwil annibynnol, bod yn ganolwr a chyfrannu at asesu gan gymheiriaid.
  • Y gallu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu/gwella strategol e.e. prosiectau ymchwil, cyrsiau newydd, ymgynghori.
  • Y gallu i nodi (trwy ddadansoddi gwybodaeth reoli briodol) feysydd sydd angen perfformiad gwell e.e. niferoedd myfyrwyr, boddhad myfyrwyr.
  • Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
  • Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil addysgegol ac ymarferwyr.
  • Gradd anrhydedd dda.
  • Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol. Ar gyfer llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.

Cysylltu

â ni

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Joanne Fawcett, yn

Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Bydd manyleb y person yn cael ei ddefnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.

Dyddiad Cau: 22 Jul 2026

Ysgol/Uned:
Academaidd

Cyflog: £53,301 to £61,759 y flwyddyn pro rata

Parhaol

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary