×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Llyfrgellydd Academaidd

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position
Listed on 2026-09-27
Job specializations:
  • Healthcare
    Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 35608 - 38784 GBP Yearly GBP 35608.00 38784.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Llyfrgellydd Academaidd (2627022)

Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn chwilio am Lyfrgellydd Academaidd i chwarae rhan allweddol yn ein tîm Dysgu ac Addysgu.

Byddwch yn datblygu a chyflwyno sesiynau addysgu i'n myfyrwyr i'w cynorthwyo i wella eu sgiliau llythrennedd gwybodaeth a deallusrwydd artiffisial er mwyn eu cefnogi i gael y gorau o'u hastudiaethau a'u hamser yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Byddwch chi'n arwain y ffordd drwy:

  • Datblygu a chyflwyno sesiynau addysgu arloesol ym mhob maes llythrennedd gwybodaeth ac ymarfer academaidd gan ddefnyddio egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu.
  • Cefnogi ymholiadau myfyrwyr yn bersonol ac ar-lein mewn modd proffesiynol, amserol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Cyfrannu at y cylch cynllunio ehangach i gyflawni amcanion strategol y gwasanaeth.
Beth fyddwch chi'n ei gyfrannu

Bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd Llyfrgell prysur a bywiog, yn ddelfrydol o fewn amgylchedd Addysg Uwch. Bydd gennych wybodaeth dda am addysg mewn Addysg Uwch a'r heriau cyfredol ynddi.

Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol wyneb yn wyneb, ac ar ffurf ysgrifenedig, byddwch yn gefnogaeth allweddol i'n myfyrwyr ennill y sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt i lwyddo ym Met Caerdydd.

Yn ogystal, byddwch chi'n:
  • meddu ar radd mewn Llyfrgellyddiaeth, gwyddor gwybodaeth neu ddisgyblaeth reoli, neu brofiad cyfatebol y gellir ei ddangos,
  • meddu ar wybodaeth a phrofiad rhagorol o TGCh mewn Addysg Uwch gan gynnwys Systemau Rheoli Llyfrgelloedd, gwasanaethau darganfod a'u datblygiad.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.

Rydym

Yn Cynnig Buddion Rhagorol Fel
  • Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn.
  • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
  • Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.

Dyddiad Cau: 05 Oct 2026

Ysgol/Uned:
Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £35,608 to £38,784 y flwyddyn

Parhaol

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary