×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Cyfrifydd; Dros Dro

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: S4C International
Full Time position
Listed on 2026-10-15
Job specializations:
  • Healthcare
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 42000 GBP Yearly GBP 42000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Cyfrifydd (Dros Dro)

Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n Tîm Cyllid dros dro.

Trosolwg y Swydd

Byddwch yn gyfrifol am weithgareddau rheoli costau cynnwys ac adroddiadau cyllidebol gan gynnwys darparu cyngor proffesiynol i alluogi penderfyniadau gwybodus i gael eu wneud.

Byddwch yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn gwireddu ein am…

Sylwer bod y rôl hon wedi’i bwriadu ar gyfer cyfrifydd cymwysedig. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu arbenigedd technegol ym maes cyfrifeg a chefnogaeth i’r tîm Cyllid ehangach.

Gall fod hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ymgymryd…

Lleoliad:Un o swyddfeydd S4C:
Yr Egin Caerfyrddin, Sgwâr Canolog Caerdydd neu Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa). Gall fod angen presenoldeb ychwanegol yn y swyddfa yn ystod y cyfnod hyfforddi a sefydlu cychwynnol. Bydd disgwyl i chi fynychu/gweithio o swyddfeydd eraill yn ôl yr angen.

Cyflog:£42,000 y flwyddyn

Oriau gwaith:35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio:Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary