Skip to content
×

Ffisiotherapydd Perfformiad; amlchwaraeon

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position Listed on 2026-11-15
Job specializations:
  • Healthcare
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 36320 - 39560 GBP Yearly GBP 36320.00 39560.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Position: Ffisiotherapydd Perfformiad (amlchwaraeon) (2627147)

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddatblygu a darparu ar gyfer talent ifanc sy’n perfformio’n uchel o fewn cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel, gan gynnwys y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, Canolfan Berfformiad Archers, y Ganolfan Tennis ac Archers Arena ar ein Campws yng Nghyncoed.

I barhau i gyflawni hyn, mae arnom angen ‘newidwyr gêm’, pobl ag ymroddiad, angerdd, creadigrwydd a dawn sy’n gweld rhwystrau yn hytrach na phroblemau, sy’n gallu meddwl yn wahanol ac sydd eisiau gwneud effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl, yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn edrych i recriwtio ar gyfer nifer o swyddi Ffisiotherapydd Perfformiad achlysurol.

Fel Ffisiotherapydd Perfformiad, byddwch yn dod yn rhan annatod o’r Tîm Gwasanaethau Perfformiad i ddarparu cymorth o’r ansawdd uchaf gyda’r nod o sicrhau’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr-athletwyr. Byddwch yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau meddygol i ddetholiad o’n Rhaglenni Chwaraeon Perfformiad, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr i gefnogi a gwella’r gofal y mae myfyrwyr-athletwyr yn ei dderbyn yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Byddwch

Yn Chwarae Rhan Allweddol Wrth
  • Gynllunio darpariaeth ffisio gadarn ar gyfer rhaglenni perfformiad Chwaraeon Met Caerdydd.
  • Dyfu’r ddarpariaeth cymorth perfformiad, gan weithredu hefyd fel arweinydd clinigol ar gyfer athletwyr aml-gamp.
  • Gydweithio â chydweithwyr, myfyrwyr a phartneriaid i greu amgylchedd chwaraeon prifysgol perfformiad uchel.
  • Ddarparu adroddiadau craff i gynorthwyo â rhaglennu, cynllunio, dewis timau a gwneud penderfyniadau.
Yr hyn y byddwch yn ei gynnig

Byddwch yn cynnig cymwysterau proffesiynol perthnasol mewn ffisiotherapi, ynghyd â phrofiad o gymorth ffisio ar ymyl y cae. Byddwch yn gyfforddus yn cefnogi athletwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol a dibynadwy.

Yn Ogystal, Byddwch Yn Cynnig
  • Gradd neu gyfwerth mewn ffisiotherapi, aelodaeth o’r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig, cofrestriad HCPC a chymhwyster trawma ymyl y cae cydnabyddedig.
  • Profiad o asesu a thrin anafiadau cyhyrysgerbydol a chyflyrau sy’n gysylltiedig â chwaraeon.
  • Sgiliau datrys problemau cadarn, gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn Brifysgol sy’n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o’n diwylliant ac rydym yno i’n pobl. Mae ein hysbryd cymunedol yn llinyn euraidd sy’n sail i’n gwerthoedd a’n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy’n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â’n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd i gefnogi eich datblygiad gyrfa.

Rydym

Yn Cynnig Buddion Rhagorol Megis
  • Polisïau rhagorol sy’n gyfeillgar i deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Canolfan Polisïau.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth llesiant annibynnol arbenigol, Health Assured.

Dyddiad Cau: 26 Nov 2026

Ysgol/Uned:
Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £36,320 to £39,560 £ 18.83 yr awr ynghyd â 14% o dâl gwyliau

Achlysurol

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary