×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Partnership Development Officer | Swyddog Datblygu Partneriaethau

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: WCVA | CGGC
Full Time position
Listed on 2026-09-23
Job specializations:
  • HR/Recruitment
    Recruiter / Talent Acquisition, HR Generalist / Talent Management
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 34285 - 35313 GBP Yearly GBP 34285.00 35313.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Swyddog Datblygu Partneriaethau

Ni yw'r sefydliad partneriaeth cenedlaethol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, gyda'r nod o alluogi sefydliadau gwirfoddol i wneud gwahaniaeth mwy gyda'n gilydd.

Gan gefnogi elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, rydym yn helpu'r sector i gysylltu, tyfu a dylanwadu ar newid trwy gydweithio, hyfforddiant, cyllid a chymorth ymarferol, gan gryfhau'r effaith y mae sefydliadau'n ei chael yn eu cymunedau.

Mae Recruit3 yn platfform recriwtio pwrpasol sy'n cysylltu pobl dalentog â gyrfaoedd gwerth chweil ar draws trydydd sector Cymru, o elusennau a grwpiau gwirfoddol i sefydliadau cymunedol a mentrau cymdeithasol.

Rydym bellach yn chwilio am Swyddog Datblygu Partneriaethau i ymuno â Recruit3 ar sail amser llawn a pharhaol, gan weithio 35 awr yr wythnos mewn ffordd hyblyg.

Rydym yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein patrwm gwaith yn 30 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau. Rhoddir manylion pellach am y treial yn ystod y broses recriwtio.

  • Cyflog o £34,285, yn codi i £35,313 y flwyddyn, ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus
  • 25 diwrnod o wyliau â thâl, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 5 diwrnod dewisol ychwanegol
  • Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 9%
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr
  • Tâl salwch gwell

Fel Swyddog Datblygu Partneriaethau, byddwch yn cefnogi twf Recruit3 ac yn cynyddu ymgysylltiad â'n cynnig partneriaid ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Gan gymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am Recruit3, byddwch yn sicrhau bod y platfform yn parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn werthfawr. Byddwch yn cynyddu ei ddefnydd ymhlith sefydliadau gwirfoddol, gan helpu i gynyddu nifer y rolau a hysbysebir a chynhyrchu incwm cynaliadwy.

Byddwch hefyd yn cydlynu gweithgaredd i recriwtio, cadw ac ymgysylltu â'n partneriaid, gan adeiladu perthnasoedd cryf a datblygu partneriaethau gwerthfawr sy'n cryfhau cysylltiadau ar draws y sector gwirfoddol.

  • Cefnogi cynllunio a chyflwyno fforymau a digwyddiadau partneriaid
  • Cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu partneriaid eraill
  • Monitro perfformiad a nodi cyfleoedd i wella
I gael eich ystyried ar gyfer y swydd Swyddog Datblygu Partneriaethau, bydd angen y canlynol arnoch:
  • Profiaid o feithrin, rheoli a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol gyda sefydliadau allanol, rhanddeiliaid, cwsmeriaid neu bartneriaid
  • Profiaid o ddefnyddio gwybodaeth neu ddata i lywio penderfyniadau a gwella canlyniadau
  • Profiaid o ddefnyddio systemau digidol perthnasol, fel gwefannau, systemau CRM neu offer adrodd
  • Y gallu i nodi cyfleoedd a'u cyflawni hyd y diwedd
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cryf wrth ymdrin ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Hydref 2026.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Partneriaethau, Swyddog Gweithredol Partneriaethau, Swyddog Gweithredol Datblygu Partneriaethau, Swyddog Partneriaethau Elusennol, Swyddog Ymgysylltu â Phartneriaid, Swyddog Perthynas, neu Gydlynydd Partneriaethau.

Mae Webrecruit a WCVA yn gyflogwyr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth. Bydd ffurflen fonitro cyfle cyfartal ddienw yn rhan o'ch cais ac fe'i defnyddir at ddibenion monitro yn unig.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary