×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Culture and Capability Support Officer

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Senedd
Full Time position
Listed on 2026-07-18
Job specializations:
  • IT/Tech
    Electrical Engineering, Ecommerce
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 25000 - 35000 GBP Yearly GBP 25000.00 35000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Diben y swydd:

Darparu cymorth gweithredu a chydlynu o safon uchel ar gyfer gweithgarwch ym maes dysgu a gallu, gan hwyluso cyflawni effeithiol drwy weinydu cywir, defnyddio offer digidol a darparu cymorth sy’n ymatebol i gwsmeriaid.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi effeithlonrwydd, ansawdd data a’r broses o ddarparu gwasanaethau, gan weithio o dan gyfarwyddyd y Swyddog Gweithredol ac o fewn prosesau sefydledig.

Gwybodaeth am y rôl:

Bydd y Swyddog Cymorth Gallu a Diwylliant yn darparu cymorth ymarferol i'r tîm Gallu a Diwylliant, gan sicrhau bod gweithgarwch dysgu yn cael ei gynnal yn ddidrafferth a bod cofnodion, systemau ac ymholiadau yn cael eu rheoli'n gywir ac yn broffesiynol.

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio offer digidol a deallusrwydd artiffisial yn gynyddol, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a chysondeb, a chan barhau i ganolbwyntio ar gymorth cyflawni yn hytrach na gwneud penderfyniadau neu oruchwylio.

Bydd deiliad y swydd hon yn adrodd i'r Swyddog Gweithrediadau Gallu a Diwylliant.

Meini prawf o ran y Gymraeg:

Mae’r sgiliau ieithyddol ar gyfer y swydd hon wedi’u hasesu fel a ganlyn:

  • Gwrando: Yn deall trafodaethau a chyfarwyddiadau, hyd yn oed ynglŷn â phynciau anghyfarwydd. (Lefel
    4)
  • Siarad: Yn gallu siarad a chymryd rhan mewn trafodaeth am gyfnod hir, yn hyderus a heb anogaeth. (Lefel
    4)
  • Darllen
    :
    Yn deall gohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau wedi'u hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl. (Lefel
    4)
  • Ysgrifennu: Yn gallu ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy'n briodol i'r darllenydd sydd mewn golwg. (Lefel
    4)

Caiff y sgiliau hyn eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.

I gael rhagor o wybodaeth am y lefelau gallu o ran y Gymraeg,
ewch i'n gwefan.

Sgiliau a chymwyseddau penodol i'r swydd:

Mae’r adran hon yn nodi'r profiad a’r sgiliau yr ystyrir eu bod yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a’r rhai yr ystyrir eu bod hefyd yn ddymunol.

  • Dylech gyfeirio at y rhain yn eich ffurflen gais.
Meini prawf penodol i’r swydd:
  • Sgiliau gweinyddu a threfnu cryf.
  • Lefel uchel o sylw i fanylion a chywirdeb.
  • Y gallu i reoli tasgau arferol yn effeithiol a bodloni terfynau amser.
  • Hyder wrth ddefnyddio offer a systemau digidol.

Nid yw'r rhinweddau a ganlyn yn hanfodol ar gyfer y swydd benodol hon, ond ystyrir eu bod yn ddymunol. Dim ond os bydd dau (neu ragor) o ymgeiswyr yn cael yr un sgôr am eu cais neu mewn cyfweliad y caiff y rhain eu hystyried.

  • Profiad o gefnogi timau dysgu, timau Adnoddau Dynol neu dimau sy’n darparu gwasanaethau.
  • Profiad o weithio gyda systemau gweinyddol neu gyllidol.
#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary