Senior Project Manager
Listed on 2026-03-07
-
Management
Program / Project Manager, Operations Manager
Uwch Reolwr Project, Sain Ffagan:
Amgueddfa Werin Cymru / Senior Project Manager, St Fagans:
National History Museum
Math o swydd wag - Tymor Sefydlog/Llawn Amser
Cliciwch ar y ddolen i wneud cais - Cymraeg
Dyddiad Cau: 12 Mawrth 2026 am 5yp
Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am Uwch Reolwr Projectau i ymuno â’n Tîm Projectau Cyfalaf a chwarae rhan ganolog ynddo, gan weithio gyda'n naw safle (wyth amgueddfa a'n Canolfan Gasgliadau Genedlaethol) ledled Cymru.
Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda'n hystâd dreftadaeth amrywiol sy'n cynnwys adeiladau eiconig a rhestredig Gradd I sy'n ffurfio rhai o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Cymru.
Cewch eich lleoli yng Nghaerdydd a byddwch yn gweithio ar draws ein holl safleoedd, yn rhan o'n Tîm Projectau, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli a chyflawni’n rhaglen o weithfeydd cyfalaf. Bydd gennych bortffolio o brojectau i'w harwain a chi fydd y prif gyswllt ar lawr gwlad, yn rheoli a chydlynu contractwyr ac ymgynghorwyr, datrys materion ymarferol, cysylltu ag awdurdodau cynllunio ac awdurdodau statudol, a sicrhau bod y projectau’n symud ymlaen yn unol â’r rhychwant, yr amser, y gost a’r ansawdd, gan ddarparu adroddiadau i dimau arwain a rheoli.
Yn ddelfrydol bydd gennych chi gymhwyster proffesiynol mewn rheoli projectau neu gymhwyster tebyg.
Byddwch yn cyfleu'r weledigaeth ar gyfer pob cynllun, gan weithredu fel llysgennad dibynadwy i’r project gyda chymdogion, tenantiaid a rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn cefnogi ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar bob lefel yn yr adran ac ar draws yr Amgueddfa, a bydd gennych chi hanes cydnabyddedig o weithio gyda thimau i symud projectau yn eu blaen a chreu newid..
Byddwch yn rheolwr projectau profiadol gyda sylfaen wybodaeth gref ym maes adeiladu, ac yn hyderus wrth gefnogi projectau cyfalaf cymhleth. Ar ben hynny, byddwch yn gallu dangos ymagwedd broffesiynol, gan weithio gyda thimau mewnol a chyflawni gwaith hwyluso, sy’n gosod y cefndir ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf.
Byddwch yn drefnus iawn, yn gydweithredol ac yn hyderus, gan gyfathrebu'n glir ag ystod eang o gynulleidfaoedd. Mae'r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: