×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Head of Policy & Campaigns; Wales

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Mind
Full Time position
Listed on 2026-09-12
Job specializations:
  • Management
    Project & Program Management
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 60000 - 70000 GBP Yearly GBP 60000.00 70000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Mae Tîm Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru yn gweithio i wella polisïau iechyd meddwl, gwasanaethau ac agweddau'r cyhoedd ledled Cymru. Rydym yn ceisio dylanwadu ar newidiadau i'r system iechyd meddwl yng Nghymru drwy ddatblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymateb i ymgyngoriadau a chynnal gwaith eiriolaeth.

Rydym yn defnyddio ymchwil a mewnwelediadau o brofiad byw i lywio ein hargymhellion a'n blaenoriaethau ymgyrchu. Mae'r tîm hefyd yn arwain ymgyrchoedd cyhoeddus, yn meithrin partneriaethau â sefydliadau eraill ac yn cefnogi rhwydwaith ehangach Mind i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol. Ein nod yw creu Cymru lle gall pawb gael y gefnogaeth iechyd meddwl, yr hawliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd deiliad y swydd yn:

  • Darparu arweinyddiaeth strategol, cynllunio a mewnwelediad ar bolisi Cymru, ymgyrchoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch er mwyn cyflawni strategaeth Mind yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad i'r uwch dîm rheoli ac ymddiriedolwyr, cynrychioli'r sefydliad ar y lefel uchaf ar faterion polisi cymhleth, a sicrhau bod profiad byw yn rhan greiddiol o waith Mind Cymru.
  • Cynnal dull cynhwysol sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ymddygiadau Mind yn y ffordd y caiff gwaith ei gyflawni ac wrth fesur canlyniadau ar lefel tîm. Sicrhau bod lleisiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu cynnwys a'u hadlewyrchu ym mholisi ac ymgyrchoedd Mind Cymru.
  • Datblygu perthnasoedd i gryfhau dylanwad Mind Cymru yng Nghymru, gan ddarparu llais cryf ar ran y ffederasiwn a'r bobl rydym yn eu cefnogi. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda gwleidyddion etholedig, Gweinidogion, swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, GIG Cymru a phenderfynwyr allweddol eraill.
  • Adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau bod anghenion cynulleidfaoedd Cymru yn cael eu hystyried wrth ddatblygu gweithgareddau polisi ac ymgyrchu.
  • Cynrychioli Mind Cymru yn fewnol ac yn allanol, gan weithredu fel llefarydd ac eiriolwr hygred dros ein gwaith, gan gynnwys yn y cyfryngau a thrwy gyfleoedd siarad cyhoeddus.
  • Cynnal a chymhwyso gwybodaeth am yr amgylcheddau polisi a gwleidyddol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary