×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Darlithydd mewn Celf Gemau

Job in Cardiff, Cardiff City Area, CF10, Wales, UK
Listing for: Cardiff Metropolitan University
Full Time position
Listed on 2026-06-04
Job specializations:
  • Manufacturing / Production
    Systems Engineer, Electrical Engineering
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 46049 - 51753 GBP Yearly GBP 46049.00 51753.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Darlithydd mewn Celf Gemau (2526436)

Y cyfle

Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.

Prif

ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno Celf Gemau a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysyd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.

Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Beth rydym yn chwilio amdano
  • Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
  • Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
  • Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
  • Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
  • Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
  • Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd – cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
  • Profiad o addysgu neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
  • Gradd anrhydedd dda.
  • Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).
Cysylltwch â ni

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â'r Sarah Smith, Pennaeth yr Adran ar

Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Defnyddir y fanyleb person fel arf ar gyfer llunio rhestr fer; felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais trwy ymweld â'n tudalen Canllawiau Ymgeisio.

Dyddiad Cau: 16 Jun 2026

Ysgol/Uned:
Academaidd

Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn pro rata

Contract tymor penodol tan 31/07/2027

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary