Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel - Cymru - Cymraeg - Caerdydd/Fangor Manylion Swydd
-
Manufacturing / Production
Machine Operator, Operations Management
Job Description & How to Apply Below
Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu
- Lefel 3 - BBC Cymru
- Cymraeg
- Caerdydd/Fangor
- Cartref
- Amdanom ni
- BBC Bywyd
- Gyrfaoedd Cynnar
- Chwilio am swyddi
- Lefel 3 - BBC Cymru
- Cymraeg
- Caerdydd/Fangor Disgrifiad Swydd i Lenwi Swydd: 55991 Dyddiad Cau ar gyfer y Swydd: 24 November 2026 Bangor, G , LL57 2BY
| Cardiff, G , CF10 1FT
Pwrpas y Swydd
MATH O GONTRACT: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis
ADRAN: BBC Radio Cymru
LLEOLIAD
:
Caerdydd neu Fangor
CYFLOG: £24,650
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith.
Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.
Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae You Tube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw.
Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC.
PAM YMUNO Â’R TÎM?BBC Radio Cymru yw corsaf radio Gymraeg genedlaethol Cymru ac mae’n darlledu ers 1977. Cafodd Radio Cymru 2 yn cael ei lansio yn 2018. Ar gyfartaledd, rydym yn darlledu dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr led
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction