Cynghorydd Cwsmeriaid
Listed on 2026-10-17
-
Retail
Financial Reporting
Rhif Cais y Swydd
9259
Math o Waith
Parhaol
Swyddogaeth y Swydd
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cwmpas Cyflog
£26,200.00
Lleoliad
Linea
Dyddiad cau ceisiadau
Dydd Mercher, 16 Medi 2026 - 23:59
Oherwydd ein bod wedi cael cymaint o geisiadau, efallai y bydd rhaid i ni gau'r hysbyseb swydd hon yn gynnar, felly rydym yn argymell gwneud cais yn gyflym.
Y dyddiad cychwyn ar gyfer y rôl hon yw 26ain o Hydref. Sylwch y bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal wythnos sy’n dechrau’r 21ain o Fedi, a bydd angen i chi fynychu bryd hynny.
Bydd gennych 3 wythnos o hyfforddiant lle byddwch yn gweithio o 9yb i 5yp. Ni allwn gymeradwyo unrhyw gyfnodau estynedig o wyliau blynyddol oherwydd y gwaith hyfforddi manwl, felly meddyliwch am hyn cyn gwneud cais am y rôl, a cynigiwch ddyddiadau wrth y ganolfan asesu i ni eu hadolygu. Ar ôl hynny fe fyddwch yn symud i rota gyda amrywiaeth o shifftiau rhwng 7yb a 10yh, bydd hyn yn cynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc, bydd hyn yn cael ei drafod yn fanwl os byddwch chi'n cael eich gwahodd i gyfweliad.
Fe fyddwch chi'n gweithio yn y swyddfa yn llawn amser am eich tri mis cyntaf fel y gallwn ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i'ch helpu chi. Mae cyfle i symud i'n model gweithio hybrid ar ôl i'ch cyfnod prawf ddod i ben.
Datrys pob ymholiad am bynciau fel ymholiadau bilio neu unrhyw ddigwyddiadau glân neu wastraff â chyfathrebu rhagorol ar draws gwahanol sianelau cysylltu. Mae’r swydd mor heriol ag y mae’n cynnig boddhad a bydd yn berffaith ar gyfer y rhai sydd ag angerdd gwirioneddol at helpu pobl.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i’n cwsmeriaid, gan ddangos agwedd gadarnhaol ac angerdd at ddatrys problemau cwsmeriaid.
- Gwrando, holi a chwestiynu yn gyson i lunio’r strategaeth orau i ddatrys y cyfrif a helpu ein cwsmeriaid.
- Datblygu cydberthynas i ddeall anghenion ein cwsmeriaid, gan nodi agweddau agored i niwed, a thrafod y ffordd orau ymlaen.
- Ymgorffori gwerthoedd y cwmni i’n helpu i wireddu gweledigaeth ein cwmni.
- Cynorthwyo cwsmeriaid a chydweithwyr trwy gyfathrebu effeithiol.
- Datblygu gwybodaeth ddatblygedig am systemau a phrosesau a chyfrannu at eu gwella.
- Deall a meistroli grym iaith, goslef ac empathi tra’n cyfathrebu gyda chydbwysedd a masnacholdeb.
- Addysgu ein cwsmeriaid ar yr wybodaeth fwyaf priodol iddy nhw fel effeithlonrwydd dŵr, tariffau cymdeithasol, neu ganlyniadau peidio â thalu.
- Dangos dull ‘un cyffyrddiad’ a chywir y tro cyntaf i helpu pob cwsmer mor gyflym a phriodol â phosibl.
- Mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol – llafar ac ysgrifenedig
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).