×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Cynorthwyydd Technegol Archwilio Troseddfannau; CSI

Job in Carmarthen, Carmarthenshire, SA31, Wales, UK
Listing for: Allscreens Nationwide Ltd
Full Time position
Listed on 2026-08-30
Job specializations:
  • Healthcare
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 22000 - 28000 GBP Yearly GBP 22000.00 28000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Cynorthwyydd Technegol Archwilio Troseddfannau (CSI)

Cynorthwyydd Technegol Archwilio Troseddfannau (CSI)

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cynorthwyydd Technegol Archwilio Troseddfannau (CSI) yn yr Adran Gwasanaethau Fforensig – Archwilio Troseddfannau.

Y patrwm sifft ar gyfer y swydd hon fydd sifftiau dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r swydd hon hefyd yn addas ar gyfer gweithio ystwyth a hyblyg. Gellir trafod hyn ymhellach yn y cyfweliad.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cefnogi'r Rheolwr Technegol Archwilio Troseddfannau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol a rheoliadol, sy’n ganolog i lwyddiant cyflawni achrediad Gwasanaeth Achredu'r DU.

Tasgau Penodol i’r Rôl

Cefnogi'r Rheolwr Technegol Archwilio Troseddfannau i sicrhau y caiff gweithgareddau technegol eu cynnal yn unol â'r Gweithdrefnau Technegol a'r Gofynion Dilysu.

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr trwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recru

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary