×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth 'r Gymraeg

Job in Carmarthen, Carmarthenshire, SA31, Wales, UK
Listing for: Allscreens Nationwide Ltd
Full Time position
Listed on 2026-08-26
Job specializations:
  • HR/Recruitment
    Recruiter / Talent Acquisition
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 27000 - 38000 GBP Yearly GBP 27000.00 38000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Gymraeg

Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Gymraeg

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Gymraeg.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cynorthwyo'r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg i ddatblygu strategaethau a pholisïau sy'n berthnasol ar gyfer y maes busnes, a helpu i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion ar draws meysydd busnes eraill hefyd.

Cefnogi'r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a'r Gymraeg i adrodd am gynnydd yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Safonau'r Gymraeg wrth y Tîm Uwch Reolwyr, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiynydd y Gymraeg a chyrff eraill yn ôl yr angen.

Cynghori adrannau ar draws yr heddlu mewn perthynas â'u cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a pholisïau a gweithdrefnau mewnol dilynol.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

  • 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
  • 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynну ar y swydd)
  • Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
  • Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynну ar y swydd)
  • Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
  • Cynllun pensiwn
  • Rhwydweithiau Cymorth Staff
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary