Skip to content
×

Hyfforddwr Sgiliau Ymchwilio yr Heddlu

Listing for: Dyfed-Powys Police
Full Time position Listed on 2026-11-27
Job specializations:
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 28000 - 42000 GBP Yearly GBP 28000.00 42000.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Hyfforddwr Sgiliau Ymchwilio Staff yr Heddlu

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Dyddiad Cyfweliad 7 Rhagfyr 2026

Dyddiad cau 02/12/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Hyfforddwr Sgiliau Ymchwilio Staff yr Heddlu yn Dysgu a Datblygu.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Ymgymryd â’r gwaith o ddylunio a chyflwyno hyfforddiant, a datblygu personél o fewn Heddlu Dyfed-Powys, yn bennaf ar gyfer hyfforddiant ymchwilio. Monitro safonau a sicrhau’r gwaith o ddatblygu cyrsiau hyfforddi effeithiol.

Ymchwilio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau dysgu a ddatblygu i ddiwallu anghenion yr heddlu, ynghyd â gwaith cwrs cysylltiedig a deunyddiau priodol eraill, yn bennaf ar gyfer datblygu staff ymchwilio.

Dylunio cynlluniau gwersi yn unol â chynhyrchion trwyddedig y Coleg Plismona sy'n ymwneud â rolau ymchwilio, a chynlluniau gwersi penodol ar gyfer rolau’r heddlu nad ydynt yn cynhyrchion trwyddedig y Coleg Plismona.

Cyflwyno pecynnau hyfforddi ar draws yr ystod lawn o rolau ymchwilio.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recru

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Language of Job Posting:
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary