Swyddog Achos Ymholiadau Arfau Saethu
-
Retail
Job Description & How to Apply Below
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Achos Ymholiadau Arfau Saethu yn Dalfeydd Cyfiawnder Troseddol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?Cynnal y broses o wneud penderfyniadau sy’n galluogi gwasanaeth Arfau Saethu a Ffrwydron effeithiol ac effeithlon.
Ymchwilio pob cronfa ddata fewnol ac allanol perthnasol wrth asesu addasrwydd unigolion ar gyfer caniatáu, adnewyddu neu amrywio tystysgrifau, neu eu haddasrwydd parhau i feddu ar dystysgrifau.
Cynnal y broses sicrhau ansawdd ac adolygu ffeiliau achos mewn perthynas â thystysgrifau Arfau Saethu a Ffrwydron ermwyn asegurar gwasanaeth o ansawdd uchel.
Coladu gwybodaeth mewn perthynas â digwyddiadau lle y mae diogelwch cyhoeddus wedi’i gyfaddawdu.
Beth allwch chi ddisgwyl?Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
- 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl cyhoeddus
- 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
- Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
- Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
- Cynllun pensiwn
- Rhwydweithiau Cymorth Staff
- Cyfleoedd gweithio hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Amrywiaeth a’r GymraegMae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recru
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction