Swyddog Tai/Housing Officer
Listed on 2026-08-26
-
Business
Business Development
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy'n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu'r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i'r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Byddai profiad gweithredol o ddarparu rheolaeth tai a gwybodaeth neu ddealltwriaeth o'r maes tai cymdeithasol yn fantais, ond yn bwysicaf oll rydym yn chwilio am rywun sydd ag ymrwymiad cryf i cynorthwyo tenantiaid a darparu gwasanaeth rhagorol.
Mae hwn yn cyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth.
Bydd deilydd y swydd yn gweithredu fel y prif gyswllt i'r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a'r gymuned leol yn gyffredinol gan sicrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori. Bydd y rol yn cynnwys gosod eiddo yn deg ac yn effeithiol; uchafu incwm rhent y Gymdeithas a delio ag ymddygiad gwrth gymdeithasol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth gwneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Y PecynMath o gytundeb:
Parhaol
Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn
Lleoliad: Dinbych a gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Disgrifiad Swydd DS Swyddog Tai 08.26.pdf
JD Housing Officer 08.26.pdf
Buddiannau Pecyn Benefits
Datblygiad PersonolOs oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennaua Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Privacy Notice Job
Canllawiau cwblhau Guidelines for completing your
Dyddiad y cyfweliadau: I'w gadarnhauByddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: