×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Rheolwr Tai​/Housing Manager

Job in Denbigh, Denbighshire, LL16, Wales, UK
Listing for: Grwp Cynefin
Full Time position
Listed on 2026-06-08
Job specializations:
  • Retail
    General Retail, Business Development
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 46392 - 52216 GBP Yearly GBP 46392.00 52216.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Rheolwr Tai / Housing Manager

Diolch am eich diddordeb yn y swydd Rheolwr Tai.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy’n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni’n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae’r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni’n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni’n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda 350 o aelodau staff, rydyn ni’n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Llu i Berthyn i bawb.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Fel aelod o’r Tîm Tai byddwch yn arwain y Tîm i ddarparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy’n galluogi Grŵp Cynefin i ragori, gan sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau tai o’r safon uchaf i denantiaid a darpar denantiaid.

Byddwch yn rheoli’r Tîm Tai i gynnwys yr holl staff a chyllideb uchafu incwm ac yn cefn ogi’r Pennaeth Tai ac arwain y Tîm i gyflawni ei dargedau a’i amcanion, gan gynnal a gwella perfformiad ein gwasanaethau rheolaeth tai a sicrhau bod naws o welliant parhaus yn rhan o bob agwedd o’r gwaith, gan ganolbwyntio ar ddeilliannau y gwasanaethau a ddarperir.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Math o gytundeb: Parhaol

Lleoliad: Penygroes/Dinbych a gweithio o gartref

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata)

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gweithrediadau – Tai

£46,392 – £52,216 y flwyddyn

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary