×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X
More jobs:

Partner Busnes Adnoddau Dynol​/Human Resources Business Partner

Job in Denbigh, Denbighshire, LL16, Wales, UK
Listing for: Grówp Cynefin
Full Time position
Listed on 2026-09-25
Job specializations:
  • Sales
    Retail Sales
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 42000 - 52000 GBP Yearly GBP 42000.00 52000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Partner Busnes Adnoddau Dynol / Human Resources Business Partner

Partner Busnes Adnoddau Dynol / Human Resources Business Partner

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Gr ŵ p Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn cyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Fel aelod o’r tîm Adnoddau Dynol byddwch yn bartner dibynadwy i arweinwyr a rheolwyr, gan ddarparu cyngor arbenigol ar draws ystod eang o faterion pobl. Byddwch yn defnyddio eich profiad a’ch mewnwelediad i gefnogi penderfyniadau effeithiol, arwain gwaith achos cymhleth, cyfrannu at newid sefydliadol, a helpu i sicrhau bod ein harferion pobl yn adlewyrchu gwerthoedd Grŵp Cynefin.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Math o gytundeb: Parhaol

Lleoliad:Dinbych / Gweithio o Gartref

Oriau Gweithio:35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Pobl a Diwylliant - Adnoddau Dynol

Partner Busnes Adnoddau Dynol / Human Resources Business Partner

Profiad sylweddol yn y maes Adnoddau Dynol / Considerable experience within Human Resources

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary