×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Tiwtor Llythrennedd Digidol

Job in Holyhead, Isle of Anglesey, LL65, Wales, UK
Listing for: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Full Time position
Listed on 2026-02-12
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 40000 GBP Yearly GBP 40000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Tiwtor Llythrennedd Digidol

Gwynedd ac Ynys Môn

Raddfa tâl: £32 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Yn ogystal â a phecyn buddion hael

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid gymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Llythrennedd Digidol i ddysgwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

  • Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
  • Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
  • Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Sut i wneud cais

Ymgeisiwch erbyn 12.00yh Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Proses Dethol a Recriwtio

Cyfweliadau i'w cynnal Dydd Llun 9fed Mawrth.

Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu 15 munud, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary