×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Athro Arweiniol – Cyfnod Allweddol

Job in Holyhead, Isle of Anglesey, LL65, Wales, UK
Listing for: Isle of Anglesey County Council
Full Time position
Listed on 2026-09-20
Job specializations:
  • Healthcare
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 33731 - 51942 GBP Yearly GBP 33731.00 51942.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Athro Arweiniol – Cyfnod Allweddol 2

Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd

Cyflawni dyletswyddau proffesiynol athro fel sy’n ofynnol gan y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ôl yr amgylchiadau ac yn unol â pholisïau’r ysgol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth. Bod yn gyfrifol am ddysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Yn ychwanegol at swydd ddisgrifiad athro dosbarth bydd disgwyl bod ‘Athrawon Arweiniol Adrannau’ yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol;
(1) Cyfrifoldeb pennaf am sicrhau’r safonau dysgu ac addysgu uchaf posibl ym mhob adran, yn unol â gweledigaeth y Corff Llywodraethol.
(2) Cynnal a cefnogi athrawon yr adran.
(3) Cam ar drefn gwyno ysgol gyfan, os nad yw athro/awes yn medru bodloni neu gynnig datrysiad.
(4) Fel ‘Arweinwyr Canol’, cefnogi’r Uwch Dim Rheoli yn eu gwaith dydd i ddydd.
(5) Fel aelod o'r ‘Tîm Rheoli’, cyfranogi’n sylweddol tuag at gyfeiriad strategol yr ysgol.
(6) Gweithredu fel athrawon dosbarth effeithiol
(7) Arwain y cydweithio a gyrru datblygiadau fel aelod o’r ‘Tîm Cydlynu Pwnc/Maes’ pan ystyrir hynny angenrheidiol.

Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

Mwy o wybodaeth

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Oriau: Llawn amser

Dyddiad Cychwyn: 01/01/2027

Graddfa: Rhedfa Tal Athrawon (£33,731 - £51,942 y flwyddyn) + Lwfans CAD2c (£3,590 y flwyddyn)

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Atodir isod y ffurflen gais a’r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais

Ffurflenni cais i’w dychwelyd i: Ysgol Cybi, Ffordd Garreglwyd, Caergybi, Ynys Môn, LL65 1NP

Dyddiad Cau: Hannel dydd, Dydd Gwener, 25 Medi 2026

Dogfennau ar gael

Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary