×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X
More jobs:

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol-Y-Dderi Primary School

Job in Lampeter, Ceredigion, SA48, Wales, UK
Listing for: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Full Time position
Listed on 2026-09-13
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Surgeon
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 21000 - 25000 GBP Yearly GBP 21000.00 25000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

The following is an advert for a position where the ability to work and converse through the medium of Welsh is essential.

Oes gennych brofiad o gefnogi disgyblion ag anghenion ymddygiadol neu anghenion dysgu ychwanegol? Ydych chi’n barod i gymryd rôl fwy annibynnol wrth helpu plant i ffynnu yn yr ysgol?

Mae Ysgol y Dderi yn recriwtio Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2 (Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth) i ymuno â’n tîm o 28/9/26 am gyfnod o 16/09/27 Mae hwn yn cyfle gwerthfawr i gefnogi disgyblion yn y dosbarth ac y tu allan iddo.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:

  • Darparu cefnogaeth wedi’i deilwra i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad at ddysgu.
  • Defnyddio sgiliau arbenigol a phrofiad i ddarparu cefnogaeth allgymorth ac i gynorthwyo gyda Chynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol.
  • Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.
  • Cefnogi gweithgareddau dysgu, monitro cynnydd disgyblion, a rhoi adborth i athrawon.
  • Helpu i greu amgylchedd dysgu pwrpasol a chefnogol.
  • Meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd, a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol gan gynnwys teithiau a gweithgareddau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • Wedi gweithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol.
  • Yn meddu ar NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymwysterau/profiad cyfatebol.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd da ac yn hyderus wrth ddefnyddio TG i gefnogi dysgu.
  • Yn deall datblygiad plant, strategaethau dysgu, a pholisïau perthnasol.
  • Yn hyblyg, rhagweithiol, ac yn gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn meddu ar hyfforddiant cymorth cyntaf neu’n barod i’w gwblhau.

Pam Ymuno â Ni?

Ymunwch â chymuned ysgol ofalgar ac ymroddedig lle mae eich sgiliau a’ch profiad yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, gan eich helpu i dyfu yn eich rôl tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgu a lles disgyblion.

Darganfyddwch fwy am Ysgol y Dderi yma:

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Heini Thomas ar

Noder:
Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad.

Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y proses recriwtio.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary