Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau - Ysgol Bro Pedr
-
Healthcare
Job Description & How to Apply Below
Prif bwrpas rôl Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau ein hysgol bydd sicrhau bod data, systemau gwybodaeth yr ysgol, data perfformiad a threfniadau arholiadau yn cael eu rheoli'n gywir, yn effeithlon ac yn unol â gofynion statudol. Mae'r rôl yn gyfrifol am gynnal uniondeb a dibynadwyedd data'r ysgol, datblygu a rheoli ein systemau gwybodaeth reoli (MIS) sef Bromcom, darparu adroddiadau a dadansoddiadau i gefnogi penderfyniadau ar bob lefel, a sicrhau bod holl brosesau arholiadau mewnol ac allanol yn cael eu gweinyddu'n effeithiol ac yn unol â rheoliadau cenedlaethol.
Bydd deiliad y rôl hefyd yn darparu arweiniad technegol ac ymarferol ar ddefnydd systemau data, yn cydlynu prosesau casglu a dilysu gwybodaeth ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng yr ysgol, cyrff dyfarnu, awdurdodau lleol a darparwyr systemau gwybodaeth. Trwy sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a hygyrch ar gael, mae'r rôl yn gwneud cyfraniad hanfodol at effeithlonrwydd gweithredol, cydymffurfiaeth statudol a chefnogi blaenoriaethau strategol yr ysgol.
Pecyn Gwybodaeth []
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad cysyllter â’r Pennaeth, Mrs Carys Morgan, drwy ebost ar neu drwy ffonio’r ysgol ar
Noder:
Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.
Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad.
Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction